RHAN 12CYMHWYSO I GAEL CYMORTH YN YSTOD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD

Cymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu yn ystod y flwyddyn academaiddI180

1

Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.

2

Y digwyddiadau yw—

a

bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;

b

bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—

F5i

bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

F2ia

bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 F7neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir ;

F8ib

bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;

F9ii

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F10iii

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu a ddisgrifir ym mharagraff 6A(1)(a), 6C(1)(a) neu 6D(a) o Atodlen 2;

F4iv

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;

F11v

pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;

vi

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym F12mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

F13vii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo rheoliad 9(1A)(a) yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2; neu

F14viii

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.

3

Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

  • “aelod o deulu” (“family member”) F16...;

  • “ffoadur” (“refugee”);

  • F18...

  • F17...

  • F3“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);

  • F19person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);

  • “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

  • F19person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);

  • F1“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)

  • F15...

  • F6“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);

  • “rhiant” (“parent”).