xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
80.—(1) Pan fo un o’r digwyddiadau [a restrir] ym mharagraff (2) yn digwydd o fewn 3 mis i ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd dysgu mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno.
(2) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y cwrs presennol yn dod yn gwrs dynodedig;
(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail—
[F1(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;]
[F2(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]
(ii)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(iii)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE [F3neu berson sy’n gymwys o dan baragraff 6(1) o Atodlen 2 yn rhinwedd paragraff 6(1A) o’r Atodlen honno ac eithrio fel aelod o’r teuluac eithrio fel aelod o’r teulu];
[F4(iv)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;]
(v)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
(vii)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(3) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 81, mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“aelod o deulu” (“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2);
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);
[F5“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);
[F6“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”)]
“plentyn” (“child”);
[F7“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);]
“rhiant” (“parent”).
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 80(2)(b)(i) wedi ei amnewid (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 43(a)
F2Rhl. 80(2)(b)(ia) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 52(a)
F3Geiriau yn rhl. 80(2)(b)(iii) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 29(a)
F4Rhl. 80(2)(b)(iv) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 29(b)
F5Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 52(b)
F6Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 13(b)
F7Geiriau yn rhl. 80(3) wedi eu mewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 43(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 80 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)