Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaiddLL+C

81.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr cymwys gymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grant.

(2Ond ni fydd swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys ond—

(a)mewn cysylltiad â’r chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd, a

(b)yn daladwy, mewn perthynas â benthyciad cynhaliaeth, os yw’n chwarter y byddai’r benthyciad fel arall yn daladwy o dan reoliad 85(6) a (7) mewn cysylltiad ag ef.

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys ar y sail–

(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n [F1dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n] dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(ii)bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 81 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)