RHAN 13TALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 2TALU BENTHYCIAD AT FFIOEDD DYSGU

Talu benthyciad at ffioedd dysguI183

1

Pan fo benthyciad at ffioedd dysgu yn daladwy i fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw i’r awdurdod academaidd y mae’r myfyriwr yn atebol i wneud taliad iddo.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r swm hwnnw mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.