Myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliadLL+C
86.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y lleoliad y mae myfyriwr cymwys yn byw ynddo yn ystod pob chwarter y mae grant cynhaliaeth neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy i’r myfyriwr mewn cysylltiad ag ef (gweler paragraff 3 o Atodlen 1).
(2) Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’n byw ynddo am y cyfnod hwyaf.
(3) Pan fo myfyriwr cymwys yn byw mewn mwy nag un categori o leoliad am gyfnod cyfartal yn ystod chwarter, mae’r myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y mae’r gyfradd uchaf o fenthyciad cynhaliaeth neu grant cynhaliaeth yn daladwy mewn perthynas ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 86 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)