RHAN 13TALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 3TALU BETHYCIADAU CYNHALIAETH A GRANTIAU

Cadarnhad o bresenoldebI187

1

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 85 oni bai eu bod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod academaidd bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar gyfer y flwyddyn academaidd.

2

Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gadarnhad—

a

bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar y cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd, mewn achos pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs—

i

ac eithrio am y tro cyntaf,

ii

am y tro cyntaf os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad, neu

iii

am y tro cyntaf os oes gan y myfyriwr anabledd, neu

b

bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs, mewn achos—

i

pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs am y tro cyntaf, a

ii

pan na fo’r myfyriwr wedi trosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad.

3

Ond caniateir gwneud taliad cyn i Weinidogion Cymru gael y cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—

a

os yw’r taliad yn swm o grant myfyriwr anabl, neu

b

os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.