87.—(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o dan reoliad 85 oni bai eu bod wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan yr awdurdod academaidd bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs dynodedig ar gyfer y flwyddyn academaidd.
(2) Rhaid i’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gadarnhad—
(a)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar y cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd, mewn achos pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs—
(i)ac eithrio am y tro cyntaf,
(ii)am y tro cyntaf os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad, neu
(iii)am y tro cyntaf os oes gan y myfyriwr anabledd, neu
(b)bod y myfyriwr cymwys wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs, mewn achos—
(i)pan fo’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs am y tro cyntaf, a
(ii)pan na fo’r myfyriwr wedi trosglwyddo i’r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad.
(3) Ond caniateir gwneud taliad cyn i Weinidogion Cymru gael y cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—
(a)os yw’r taliad yn swm o grant myfyriwr anabl, neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau eithriadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 87 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)