- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
88.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ar swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys (boed hynny o ganlyniad i ddiwygio penderfyniad dros dro neu fel arall) ar ôl i daliad o unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant gael ei wneud.
(2) Os yw’r penderfyniad yn cynyddu swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm ychwanegol yn y rhandaliadau hynny, neu mewn un cyfandaliad, y maent yn meddwl ei bod yn briodol.
(3) Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw grant sy’n daladwy—
(a)didynnir swm y gostyngiad o weddill y grant sydd eto i gael ei dalu;
(b)os yw’r gostyngiad yn fwy na gweddill y grant hwnnw sydd eto i gael ei dalu—
(i)gostyngir gweddill y swm hwnnw sydd eto i gael ei dalu i ddim,
(ii)mae gweddill y gostyngiad, os oes un, i’w ddidynnu o weddill unrhyw grant arall sydd eto i gael ei dalu, a
(iii)os oes unrhyw swm o’r gostyngiad sy’n weddill o hyd, mae i’w drin fel gordaliad.
(4) Os yw’r penderfyniad yn gostwng swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy (“y cyfanswm newydd sy’n daladwy”)—
(a)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn fwy na swm y benthyciad cynhaliaeth y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, mae unrhyw swm ychwanegol y caiff y myfyriwr wneud cais amdano wedi ei ostwng yn unol â hynny;
(b)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na’r swm y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ni chaiff y myfyriwr wneud cais am unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad cynhaliaeth;
(c)pan fo’r cyfanswm newydd sy’n daladwy yn llai na gweddill y benthyciad cynhaliaeth sydd eto i gael ei dalu—
(i)gostyngir gweddill y swm sydd eto i gael ei dalu i ddim, a
(ii)mae’r rhan honno o’r swm sydd eisoes wedi cael ei dalu sy’n fwy na’r cyfanswm newydd sy’n daladwy, os oes un, i’w thrin fel gordaliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: