RHAN 13TALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 4GORDALIADAU AC ADENNILL

Gordaliadau – cyffredinolI189

1

Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at ffioedd dysgu oddi wrth yr awdurdod academaidd.

2

Pan fo myfyriwr cymwys wedi cael swm unrhyw fenthyciad cynhaliaeth neu grant sy’n fwy na’r swm y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i’w gael o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

3

Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at fyfyriwr cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth ond nad yw’n fyfyriwr cymwys neu nad yw’n fyfyriwr cymwys mwyach.