xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
91.—(1) Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—
(a)drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu
(b)drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
(2) Y rhesymau yw—
(a)methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth yn brydlon a all fod wedi effeithio ar ba un a oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael y benthyciad neu swm y benthyciad sy’n daladwy;
(b)darparodd y myfyriwr yr wybodaeth ond roedd yr wybodaeth yn sylweddol anghywir;
(c)methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(3) Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw reswm arall, ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad ond drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 91 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)