RHAN 13TALIADAU, GORDALIADAU AC ADENNILL

PENNOD 4GORDALIADAU AC ADENNILL

Adennill benthyciadau cynhaliaeth sydd wedi cael eu gordalu91

1

Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad—

a

drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998, neu

b

drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.

2

Y rhesymau yw—

a

methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth yn brydlon a all fod wedi effeithio ar ba un a oedd y myfyriwr yn cymhwyso i gael y benthyciad neu swm y benthyciad sy’n daladwy;

b

darparodd y myfyriwr yr wybodaeth ond roedd yr wybodaeth yn sylweddol anghywir;

c

methodd y myfyriwr â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

3

Pan fo benthyciad cynhaliaeth wedi cael ei ordalu am unrhyw reswm arall, ni chaiff Gweinidogion Cymru adennill y gordaliad ond drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw fenthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.