Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
93.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
(b)sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.
[F1(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.]
(3) Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—
(a)y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;
(b)pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 93(2) wedi ei amnewid (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 8
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 93 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)