RHAN 14CYFYNGIADAU AR DALIADAU A’R SYMIAU SY’N DALADWY

PENNOD 1CYFYNGIADAU SY’N YMWNEUD Â BENTHYCIADAU CYNHALIEATH A GRANTIAU

Cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carchar93

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

a

y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a

b

sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—

S×(dBdC)dBmath

Pan—

  • S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;

  • dB yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;

  • dC yw nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn pan yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.

3

Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—

a

y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;

b

pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.