93.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
(b)sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
Pan—
S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;
dB yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;
dC yw nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn pan yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
(3) Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—
(a)y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;
(b)pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.