95.—[F1(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.]
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
(3) Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo—
(a)swm o grant yn daladwy i fyfyriwr cymwys (“P”) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
(b)cyfnod cymhwystra P yn dod i ben neu’n cael ei derfynu ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
(a)swm y grant a fyddai, pe na bai cymhwystra P wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm llawn”), a
(b)cyfran y swm llawn a fyddai’n daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau’r cyfnod talu hwnnw ac sy’n gorffen pan ddaeth cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm rhannol”).
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a grybwyllir ym mharagraff (6)—
(a)pan fônt wedi gwneud taliad i P o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu,
(b)pan fo’r taliad wedi ei wneud cyn i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, ac
(c)pan fo’r swm a delir yn fwy na’r swm rhannol.
(6) Nod y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw naill ai—
(a)gostwng swm y grant sy’n daladwy i P yn ôl y swm dros ben y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) (ac yn unol â hynny, trin y swm dros ben fel gordaliad), neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol, estyn cyfnod cymhwystra P mewn cysylltiad â’r grant hyd ddiwedd y cyfnod talu (ac yn unol â hynny, mae’r swm llawn yn daladwy).
(7) Pan—
(a)bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad i P, neu y maent i fod i wneud taliad iddo, o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu, a
(b)bo’r taliad—
(i)wedi ei wneud neu i fod i gael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, neu
(ii)wedi ei wneud cyn hynny ac nad yw’n fwy na’r swm rhannol,
swm y grant sy’n daladwy yw’r swm rhannol oni bai bod paragraff (8) yn gymwys.
(8) O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7), o ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt benderfynu bod cyfnod cymhwystra P yn cael ei estyn i ddiwedd y cyfnod talu o dan sylw (ac yn unol â hynny, mae swm llawn y grant yn daladwy) os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny, a
(b)rhaid iddynt benderfynu felly os yw swm y grant o dan sylw yn swm grant myfyriwr anabl a delir mewn cysylltiad â gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod talu” yw cyfnod (pa un a yw’n flwyddyn academaidd gyfan neu chwarter o flwyddyn academaidd) y mae fenthyciad cynhaliaeth neu grant yn daladwy, neu y byddai’n daladwy, mewn cysylltiad ag ef oni bai am y ffaith bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 95(1) wedi ei amnewid (1.8.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018 (O.S. 2018/813), rhlau. 1(2), 10
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 95 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)