ATODLEN 1Dehongli
Ystyr blwyddyn academaidd
1.
(1)
Penderfynir ar “blwyddyn academaidd”, mewn cysylltiad â chwrs, fel a ganlyn—
(a)
nodi’r cyfnod yng Ngholofn 2 o Dabl 14 y mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ynddo mewn gwirionedd;
(b)
y flwyddyn academaidd yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir yn y cofnod yng Ngholofn 1 o’r Tabl sy’n cyfateb i’r cyfnod a nodir yng Ngholofn 2.
(2)
Ond os yw’r cwrs yn gwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig, ystyr “blwyddyn academaidd”, mewn cysylltiad â blwyddyn gyntaf y cwrs, yw’r cyfnod o 8 mis sy’n dechrau ar y dyddiad a bennir felly.
(3)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “blwyddyn academaidd” yn gyfeiriad at flwyddyn y penderfynir arni yn unol ag is-baragraffau (1) a (2).
Colofn 1 Dyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd at ddibenion y Rheoliadau hyn | Colofn 2 Y cyfnod y mae blwyddyn academaidd yn dechrau ynddo |
---|---|
1 Medi | Ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr |
1 Ionawr | Ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill |
1 Ebrill | Ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf |
1 Gorffennaf | Ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst |
Sefydliadau addysgol
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
(a)
ystyr “sefydliad addysgol cydnabyddedig” yw—
(i)
sefydliad rheoleiddiedig Cymreig,
(ii)
sefydliad rheoleiddiedig Seisnig,
(iii)
sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban, neu
(iv)
sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon;
(b)
(c)
ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.
Lleoliad myfyriwr cymwys
3.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn, mewn perthynas â myfyriwr cymwys—
(a)
ystyr “byw gartref” yw bod y myfyriwr yn byw yng nghartref rhiant y myfyriwr wrth iddo ymgymryd â’r cwrs presennol;
(b)
ystyr “byw oddi cartref, astudio yn Llundain” yw bod y myfyriwr yn byw i ffwrdd o gartref rhiant y myfyriwr tra bo’n—
(i)
ymgymryd â chwrs ym Mhrifysgol Llundain,
(ii)
ymgymryd â chwrs mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol yn y flwyddyn academaidd ar safle sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn Llundain pan fo o leiaf hanner o unrhyw chwarter o’r cwrs wedi ei ddarparu ar safle o’r fath, neu
(iii)
ymgymryd â chwrs rhyngosod yn y flwyddyn academaidd mewn sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr wneud profiad gwaith, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn Llundain pan fo’r profiad gwaith hwnnw, neu’r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio, am o leiaf hanner o unrhyw chwarter;
(c)
ystyr “byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall” yw bod y myfyriwr cymwys yn byw i ffwrdd o gartref rhiant y myfyriwr ond nid yw’n astudio yn Llundain, gan gynnwys bod yn bresennol mewn sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o gwrs y myfyriwr neu ar leoliad gwaith tramor yn ystod blwyddyn Erasmus.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “Llundain” yw ardal Dinas Llundain a chyn-Ddosbarth yr Heddlu Metropolitanaidd.
(3)
Yn is-baragraff (2), ystyr “cyn-Ddosbarth yr Heddlu Metropolitanaidd” yw—
(a)
Llundain Fwyaf, ac eithrio dinas Llundain, y Deml Fewnol a’r Deml Ganol,
(b)
yn swydd Essex, yn nosbarth Epping Forest—
(i)
ardal cyn-ddosbarth trefol Chigwell, a
(ii)
plwyf Waltham Abbey,
(c)
yn swydd Hertford—
(i)
ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn-ddosbarth trefol Cheshunt,
(ii)
dosbarth Hertsmere, a
(iii)
yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw, ac
(d)
yn swydd Surrey—
(i)
ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn-ddosbarth trefol Esher,
(ii)
bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne, a
(iii)
yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn-ddosbarth trefol Banstead.
Ystyr blwyddyn Erasmus
4.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn Erasmus” yn flwyddyn academaidd pan fydd myfyriwr—
(a)
yn cymryd rhan yn y cynllun ERASMUS fel rhan o gwrs a ddarperir yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol cydnabyddedig, a
(b)
yn bodloni amod A, B neu C yn is-baragraff (2).
(2)
Yr amodau yw—
Amod A
(a)
Darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a
(b)
mae’r myfyriwr yn cwblhau pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Amod B
(a)
Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,
(b)
mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac
(c)
yn ystod y flwyddyn academaidd honno, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn llai na 10 wythnos.
Amod C
(a)
Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,
(b)
mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac
(c)
yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o’r cwrs, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau a dreulir yn ei gwblhau (nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban), gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.
(3)
Myfyrwyr rhan-amser – cyfrifo’r dwysedd astudio
5.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at y dwysedd astudio mewn perthynas â chwrs rhan-amser yn gyfeiriad at ba un bynnag yw’r lleiaf o—
(a)
y ganran a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (2), neu
(b)
75%.
(2)
Caiff y ganran ei chyfrifo fel a ganlyn—
Pan fo—
RhA yn dynodi nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill sydd i’w dyfarnu i’r myfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs rhan-amser gan yr awdurdod academaidd os yw’r myfyriwr yn cwblhau’n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae’n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, a
LlA yn dynodi—
- (a)
pan fo’r cwrs wedi ei ddarparu gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;
- (b)
pan fo’r cwrs wedi ei ddarparu gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu unedau eraill y byddai’n ofynnol i fyfyriwr llawnamser safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol o fewn y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau’r cwrs hwnnw.
- (a)
(3)
At ddibenion is-baragraff (2)—
(a)
ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” yw cwrs llawnamser sy’n arwain at yr un cymhwyster â’r cwrs rhan-amser o dan sylw;
(b)
ystyr y “cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol” yw’r cyfnod y byddai myfyriwr llawnamser safonol yn cwblhau’r cwrs llawnamser cyfatebol ynddo;
(c)
ystyr “myfyriwr llawnamser safonol” yw myfyriwr sy’n cael ei ystyried yn un—
(i)
sydd wedi dechrau ar y cwrs llawnamser cyfatebol ar yr un dyddiad â’r myfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs rhan-amser o dan sylw,
(ii)
nad yw wedi cael ei esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol,
(iii)
nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o’r cwrs llawnamser cyfatebol; a
(iv)
nad yw wedi bod yn absennol o’r cwrs llawnamser cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
Dehongli termau allweddol eraill
6.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc (ac mae “carchar” i’w ddehongli yn unol â hynny);
mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs hyfforddiant athrawon sy’n arwain at radd gyntaf ond nid yw’n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2));
ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs—
(a)
pan fo’r flwyddyn gyntaf i’w chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis, a
(b)
pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill y cwrs ar sail gywasgedig o’r fath;
ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—
(a)
at ddibenion cofrestru, ymrestru neu arholiadau; neu
(b)
ar benwythnos neu yn ystod gwyliau;
ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs a benderfynir felly gan—
(a)
Gweinidogion Cymru yn unol ag is-baragraff (2), neu
(b)
ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs llawnamser—
(a)
sy’n arwain at gymhwyso’n feddyg neu’n ddeintydd,
(b)
nad yw ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf,
(c)
pan gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol yw’r gofyniad mynediad arferol, a
(d)
nad yw’n para’n hwy na 4 blynedd;
ystyr “cwrs penben” (“end on course”) yw—
(a)
cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs addysg llawnamser perthnasol,
(b)
cwrs gradd anrhydedd llawnamser sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs gradd llawnamser perthnasol,
(c)
cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs addysg rhan-amser perthnasol, neu
(d)
cwrs gradd anrhydedd rhan-amser sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs gradd rhan-amser perthnasol;
ac yn y diffiniad hwn—
“ystyr “cwrs addysg perthnasol” (“relevant education course”) yw—
(a)
cwrs ar gyfer y diploma addysg uwch,
(b)
cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—
- (i)
y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu
- (ii)
Awdurdod Cymwysterau’r Alban, neu
(c)
cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch,
y cafodd y myfyriwr gymorth ar ei gyfer neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “cwrs gradd perthnasol” (“relevant degree course”) yw—
(a)
cwrs gradd sylfaen, neu
(b)
cwrs gradd arferol,
y cafodd y myfyriwr gymorth ar ei gyfer neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn;”
ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw’r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 32;
ystyr “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yw cwrs—
(a)
sydd â chyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a
(b)
pan fo’r myfyriwr, gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, yn bresennol ar y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad am ddim llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd (a phan fo diwrnodau astudio llawnamser am yn ail â diwrnodau profiad gwaith mewn unrhyw wythnos, caniateir cyfrifo swm gyfanredol y diwrnodau astudio hynny gyda’i gilydd a chydag unrhyw wythnosau llawn o astudio llawnamser wrth benderfynu ar nifer yr wythnosau o astudio llawnamser mewn blwyddyn);
at ddibenion paragraff (b), mae’r cwrs i’w drin fel pe bai’n dechrau â’r cyfnod cyntaf o astudio llawnamser ac yn dod i ben â’r cyfnod olaf o’r fath;
ond nid yw cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon yn gwrs rhyngosod;
yn yr un modd, nid yw blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n flwyddyn Erasmus i’w thrin fel cwrs rhyngosod;
ystyr “cyfnod o brofiad gwaith” (“period of work experience”) yw—
(c)
cyfnod o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig ag astudio llawnamser mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;
(d)
cyfnod y mae myfyriwr wedi ei gyflogi ynddo ac yn preswylio mewn gwlad y mae’r myfyriwr yn astudio ei hiaith ar gyfer ei gwrs presennol (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai nag un hanner o gyfanswm yr amser a dreulir yn astudio’r cwrs);
ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil a ganlyn—
- (a)
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau;
- (b)
Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol;
- (c)
Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;
- (d)
Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol;
- (e)
Y Cyngor Ymchwil Feddygol;
- (f)
Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;
- (g)
Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;
ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan nodir fel arall, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)
y Rheoliadau hyn, neu
(b)
unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
ystyr “chwarter” (“quarter”) yw cyfnod o’r flwyddyn academaidd—
(a)
sy’n dechrau ar 1 Medi ac sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr;
(b)
sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
(c)
sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin;
(d)
sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy’n dod i ben ar 31 Awst;
ystyr “dyfarndal statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarndal a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir, yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962, neu unrhyw ddyfarndal, grant, neu gymorth arall cyffelyb, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;
ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—
(a)
priod neu bartner sifil P;
(b)
person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;
(c)
rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;
(d)
F1plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw;
ystyr “sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus” (“publicly funded institution”) yw sefydliad yn y Deyrnas Unedig a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan—
(a)
Senedd y Deyrnas Unedig;
(b)
Gweinidogion Cymru;
(c)
Gweinidogion yr Alban;
(d)
Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;
neu o gronfeydd y gellir eu priodoli i gronfeydd o’r fath.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw’r cwrs—
(a)
yn gwrs dynodedig llawnamser ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd sylfaen), a
(b)
yn para am ddwy flynedd academaidd.