YR ATODLENNI

ATODLEN 1Dehongli

F12A

1

Yn y Rheoliadau hyn—

a

ystyr “sefydliad a gyllidir gan Gymru” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

b

ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Cymreig” yw sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan adran 7 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 tra bo’r cynllun hwnnw yn parhau mewn grym;

c

ystyr “darparwr Seisnig gwarchodedig” yw sefydliad a oedd, ar neu ar ôl 1 Awst 2018 ond cyn 1 Awst 2019, yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd yn unol ag adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac eithrio sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd a wneir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

d

ystyr “sefydliad Seisnig cofrestredig” yw sefydliad sydd wedi ei gofrestru gan y Swyddfa Fyfyrwyr yn y gofrestr;

e

ystyr “sefydliad rheoleiddiedig Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sy’n ddarostyngedig i amod terfyn ffioedd o dan adran 10 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017;

f

ystyr “darparwr cynllun Seisnig” yw sefydliad Seisnig cofrestredig sydd â chynllun mynediad a chyfranogiad a gymeradwywyd gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 ac sy’n parhau mewn grym;

g

ystyr “sefydliad a gyllidir gan yr Alban” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weinidogion yr Alban;

h

ystyr “sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon” yw sefydliad a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon.

2

Yn is-baragraff (1) mae cyfeiriad at y gofrestr yn cyfeirio at y gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Swyddfa Fyfyrwyr o dan adran 3 o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.