YR ATODLENNI

ATODLEN 1Dehongli

Ystyr blwyddyn ErasmusI14

1

Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn Erasmus” yn flwyddyn academaidd F1, pa un a ddechreuodd y flwyddyn academaidd honno cyn y diwrnod ymadael ai peidio, pan fydd myfyriwr—

a

yn cymryd rhan yn y cynllun ERASMUS fel rhan o gwrs a ddarperir yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol cydnabyddedig, a

b

yn bodloni amod A, B neu C yn is-baragraff (2).

2

Yr amodau yw—

Amod A

a

Darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a

b

mae’r myfyriwr yn cwblhau pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Amod B

a

Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,

b

mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac

c

F2yn ddarostyngedig i baragraff (d) yn ystod y flwyddyn academaidd honno, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn llai na 10 wythnos F3,

F4d

mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019, ni fydd unrhyw un neu ragor o gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ar ôl y diwrnod ymadael yn cael eu cyfrif at ddibenion paragraff (c).

Amod C

a

Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,

b

mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac

c

yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o’r cwrs, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau a dreulir yn ei gwblhau (nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban), gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.

3

Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol42.