Ystyr blwyddyn Erasmus
4.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, mae “blwyddyn Erasmus” yn flwyddyn academaidd pan fydd myfyriwr—
(a)yn cymryd rhan yn y cynllun ERASMUS fel rhan o gwrs a ddarperir yn gyfan gwbl gan sefydliad addysgol cydnabyddedig, a
(b)yn bodloni amod A, B neu C yn is-baragraff (2).
(2) Yr amodau yw—
Amod A
(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a
(b)mae’r myfyriwr yn cwblhau pob cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Amod B
(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,
(b)mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac
(c)yn ystod y flwyddyn academaidd honno, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn llai na 10 wythnos.
Amod C
(a)Darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban,
(b)mae o leiaf un cyfnod astudio neu leoliad gwaith o dan y cynllun wedi ei gwblhau mewn sefydliad neu weithle y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn academaidd, ac
(c)yn ystod y flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o’r cwrs, mae cyfnod cyfanredol unrhyw un neu ragor o gyfnodau a dreulir yn ei gwblhau (nad ydynt yn gyfnodau astudio llawnamser yn y sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban), gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn fwy na 30 wythnos.
(3) Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol(1).
Mae ERASMUS yn rhan o SOCRATES, rhaglen weithredu’r Undeb Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.