YR ATODLENNI

ATODLEN 1Dehongli

Dehongli termau allweddol eraillI16

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod o’r lluoedd arfog” (“member of the armed forces”) yw aelod o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron;

  • ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sy’n bodloni gofynion a bennir mewn rheoliadau o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 200243;

  • ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

  • ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc (ac mae “carchar” i’w ddehongli yn unol â hynny);

  • F2ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

  • mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs hyfforddiant athrawon sy’n arwain at radd gyntaf ond nid yw’n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2));

  • ystyr “cwrs blwyddyn gyntaf gywasgedig” (“compressed first year course”) yw cwrs—

    1. a

      pan fo’r flwyddyn gyntaf i’w chwblhau mewn cyfnod o ddim mwy na saith mis, a

    2. b

      pan nad ymgymerir ag unrhyw flynyddoedd eraill y cwrs ar sail gywasgedig o’r fath;

  • ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

    1. a

      at ddibenion cofrestru, ymrestru neu arholiadau; neu

    2. b

      ar benwythnos neu yn ystod gwyliau;

  • ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs a benderfynir felly gan—

    1. a

      Gweinidogion Cymru yn unol ag is-baragraff (2), neu

    2. b

      yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â rheoliad 2(2) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 201144;

  • ystyr “cwrs mynediad graddedig carlam” (“accelerated graduate entry course”) yw cwrs llawnamser—

    1. a

      sy’n arwain at gymhwyso’n feddyg neu’n ddeintydd,

    2. b

      nad yw ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf,

    3. c

      pan gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol yw’r gofyniad mynediad arferol, a

    4. d

      nad yw’n para’n hwy na 4 blynedd;

  • ystyr “cwrs penben” (“end on course”) yw—

    1. a

      cwrs gradd gyntaf llawnamser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs addysg llawnamser perthnasol,

    2. b

      cwrs gradd anrhydedd llawnamser sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs gradd llawnamser perthnasol,

    3. c

      cwrs gradd gyntaf rhan-amser (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs addysg rhan-amser perthnasol, neu

    4. d

      cwrs gradd anrhydedd rhan-amser sydd, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn gwrs y mae myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn union ar ôl peidio ag ymgymryd â chwrs gradd rhan-amser perthnasol;

      ac yn y diffiniad hwn—

      • ystyr “cwrs addysg perthnasol” (“relevant education course”) yw—

        1. a

          cwrs ar gyfer y diploma addysg uwch,

        2. b

          cwrs ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

          1. i

            y Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, neu

          2. ii

            Awdurdod Cymwysterau’r Alban, neu

        3. c

          cwrs ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch,

      • y cafodd y myfyriwr gymorth ar ei gyfer neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn;

      • ystyr “cwrs gradd perthnasol” (“relevant degree course”) yw—

        1. a

          cwrs gradd sylfaen, neu

        2. b

          cwrs gradd arferol,

      y cafodd y myfyriwr gymorth ar ei gyfer neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael cymorth ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw’r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 32;

  • ystyr “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yw cwrs—

    1. a

      sydd â chyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

    2. b

      pan fo’r myfyriwr, gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, yn bresennol ar y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad am ddim llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd (a phan fo diwrnodau astudio llawnamser am yn ail â diwrnodau profiad gwaith mewn unrhyw wythnos, caniateir cyfrifo swm gyfanredol y diwrnodau astudio hynny gyda’i gilydd a chydag unrhyw wythnosau llawn o astudio llawnamser wrth benderfynu ar nifer yr wythnosau o astudio llawnamser mewn blwyddyn);

      • at ddibenion paragraff (b), mae’r cwrs i’w drin fel pe bai’n dechrau â’r cyfnod cyntaf o astudio llawnamser ac yn dod i ben â’r cyfnod olaf o’r fath;

      • ond nid yw cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon yn gwrs rhyngosod;

      • yn yr un modd, nid yw blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig sy’n flwyddyn Erasmus i’w thrin fel cwrs rhyngosod;

      • ystyr “cyfnod o brofiad gwaith” (“period of work experience”) yw—

    3. c

      cyfnod o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig ag astudio llawnamser mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

    4. d

      cyfnod y mae myfyriwr wedi ei gyflogi ynddo ac yn preswylio mewn gwlad y mae’r myfyriwr yn astudio ei hiaith ar gyfer ei gwrs presennol (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai nag un hanner o gyfanswm yr amser a dreulir yn astudio’r cwrs);

    ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o’r cynghorau ymchwil a ganlyn—

    1. a

      Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau;

    2. b

      Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol;

    3. c

      Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol;

    4. d

      Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol;

    5. e

      Y Cyngor Ymchwil Feddygol;

    6. f

      Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol;

    7. g

      Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

  • ystyr “cymorth” (“support”), ac eithrio pan nodir fel arall, yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan—

    1. a

      y Rheoliadau hyn, neu

    2. b

      unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “chwarter” (“quarter”) yw cyfnod o’r flwyddyn academaidd—

    1. a

      sy’n dechrau ar 1 Medi ac sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr;

    2. b

      sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

    3. c

      sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin;

    4. d

      sy’n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy’n dod i ben ar 31 Awst;

  • ystyr “dyfarndal statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarndal a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir, yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962, neu unrhyw ddyfarndal, grant, neu gymorth arall cyffelyb, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs sy’n cael ei dalu o gronfeydd a ddarperir gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

  • mae i “ffioedd” (“fees”) yr ystyr a roddir yn adran 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 201545 ond nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys i ffioedd colegau Oxbridge (gweler Atodlen 5).

  • ystyr “perthynas agos” (“close relative”) (mewn perthynas â pherson (“P”)) yw—

    1. a

      priod neu bartner sifil P;

    2. b

      person sy’n byw fel arfer gyda P fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil i P;

    3. c

      rhiant P, pan fo P o dan 25 oed;

    4. d

      F1plentyn P, pan fo P yn ddibynnol ar y plentyn hwnnw;

  • ystyr “sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus” (“publicly funded institution”) yw sefydliad yn y Deyrnas Unedig a gynhelir neu a gynorthwyir gan grantiau rheolaidd o gronfeydd a ddarperir gan—

    1. a

      Senedd y Deyrnas Unedig;

    2. b

      Gweinidogion Cymru;

    3. c

      Gweinidogion yr Alban;

    4. d

      Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;

    neu o gronfeydd y gellir eu priodoli i gronfeydd o’r fath.

2

Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw’r cwrs—

a

yn gwrs dynodedig llawnamser ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd sylfaen), a

b

yn para am ddwy flynedd academaidd.