YR ATODLENNI

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Rheoliad 9(1)(a)

Categori 1 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas UnedigI11

1

Person—

a

sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

i

wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a

ii

yn preswylio fel arfer yng Nghymru,

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

c

na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 9(2)).

2

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 2 – Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoeddI22

1

Person—

a

sy’n ffoadur,

b

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,

b

a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a

d

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,

b

ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,

c

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,

d

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac

e

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

F6Categori 2A - Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd2A

1

Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—

a

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

i

sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a

ii

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

i

sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a

ii

a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,

b

a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,

b

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—

i

y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo, a

ii

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.

Categori 3 – Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoeddI33

1

Person—

a

sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

b

F2a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,

i

y cais am loches, neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

3

Person—

a

sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,

b

F3a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,

i

y cais am loches, neu

ii

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,

c

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—

F4a

sydd—

i

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

ii

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,

iii

wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,

iv

wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,

c

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.

F15

Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.

Categori 4 – Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoeddI44

1

Person—

a

sy’n un o’r canlynol—

i

gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

ii

gweithiwr cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

iii

aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

iv

gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

v

person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;

vi

aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Person—

a

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr yn yr Undeb, fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE46.

3

Yn is-baragraff (1)—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

    1. a

      mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—

      1. i

        priod y person neu ei bartner sifil,

      2. ii

        disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu

      3. iii

        perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

    2. b

      mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

      1. i

        priod y person neu ei bartner sifil, neu

      2. ii

        plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

  • ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

    1. a

      yn weithiwr yng Nghymru, a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    1. a

      yn berson cyflogedig yng Nghymru, a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    1. a

      yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a

    2. b

      yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.

4

At ddibenion is-baragraff (3)—

  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

    1. a

      mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu

    2. b

      mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 5 – Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arallI55

1

Person—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,

b

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio,

c

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,

d

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

e

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

2

At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.

3

Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—

a

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

b

yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu

c

yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol,

sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

4

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—

a

sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a chanddo hawl i breswylio’n barhaol,a

b

sy’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

5

At ddibenion is-baragraff (4), mae P yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw P—

a

yn briod neu’n bartner sifil i Q,

b

yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

i

o dan 21 oed, neu

ii

yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

c

pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil Q.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 6 – Gwladolion UEI66

1

Person—

a

sydd naill ai—

i

yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio, neu

ii

yn aelod o deulu person o’r fath,

b

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

2

Person—

a

sy’n wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

3

Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

4

At ddibenion is-baragraff (1)(a), nid yw gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os nad yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

5

At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae person (“P”) yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw—

a

P yn briod neu’n bartner sifil i Q,

b

P yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—

i

o dan 21 oed, neu

ii

yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu

c

mewn achos pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, P yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinell esgynnol priod neu bartner sifil Q.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 7 – Plant gwladolion SwisaiddI77

1

Person—

a

sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

d

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Categori 8 – Plant gweithwyr TwrcaiddI88

1

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

a

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

b

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegolI99

1

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

a

â’r cwrs presennol, neu

b

gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

a

P,

b

priod neu bartner sifil P,

c

rhiant P, neu

d

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci.

3

At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

a

yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

b

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

c

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

4

At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

5

At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal—

a

nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond

b

sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth bellach ar breswylio fel arfer: personau sy’n ymadael â gofalI1010

1

Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—

a

yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu

b

yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),

o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.

2

Ym mharagraff (1)—

  • ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

  • mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;

  • mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 o’r Ddeddf honno.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

DehongliI1111

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan Wladwriaethau’r AEE;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau47;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 199948 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Ngenefa ar 28 Gorffennaf 195149 fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 196750;

  • ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

  • F5ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;

  • mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 197151;

  • ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.