xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 9(1)(a)
1.—(1) Person—
(a)sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(i)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol, a
(ii)yn preswylio fel arfer yng Nghymru,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(c)na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (b), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 9(2)).
(2) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Person—
(a)sy’n ffoadur,
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur,
(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, a
(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur,
(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw,
(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches,
(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac
(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
2A.—(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)(i)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth,
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth gais i aros yn y Deyrnas Unedig fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo,
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”) yw person—
(i)y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo, a
(ii)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 2 para. 2A wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(a)
3.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(b)[F2a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros,]
(i)y cais am loches, neu
(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros,
(b)[F3a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,]
(i)y cais am loches, neu
(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,
o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw,
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw person (“P”)—
[F4(a)sydd—
(i)wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,
(ii)heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn, ac y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny,
[F5(iia)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;]
(iii)wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat o dan y rheolau mewnfudo,
(iv)wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw P yn cymhwyso i gael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat [F6neu deuluol] o dan y rheolau mewnfudo, fod P wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r rheolau ar sail Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol,]
(c)nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i P gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros.
[F7(5) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi.]
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 2 para. 3(2)(b) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(b)(i)
F3Atod. 2 para. 3(3)(b) wedi ei amnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(b)(ii)
F4Atod. 2 para. 3(4)(a) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 2 para. 3(4)(a)(b) (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(b)(iii)
F5Atod. 2 para. 3(4)(iia) wedi ei fewnosod (9.9.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1192), rhlau. 1(2), 7(2)(a)
F6Geiriau yn Atod. 2 para. 3(4)(a)(iv) wedi eu mewnosod (9.9.2019) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1192), rhlau. 1(2), 7(2)(b)
F7Atod. 2 para. 3(5) wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(b)(iv)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
3A.—(1) Person—
(a)sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i’r person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67,
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Yn y paragraff hwn—
ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i aros” (“leave application date”) yw’r dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 y cais a arweiniodd at y person hwnnw yn cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig.
ystyr “person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”) yw person—
y mae ganddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac yn unol â’r rheolau mewnfudo, a
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person.]
Diwygiadau Testunol
F8Atod. 2 para. 3A wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) of the amending S.I.) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 56
4.—(1) Person—
(a)sy’n un o’r canlynol—
(i)gweithiwr mudol AEE neu berson hunangyflogedig AEE, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ii)gweithiwr cyflogedig Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd, sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iii)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(iv)gweithiwr trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;
(v)person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd;
(vi)aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v), a
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 492/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar symudiad rhydd ar gyfer gweithwyr yn yr Undeb, fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE(1).
(3) Yn is-baragraff (1)—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—
mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—
priod y person neu ei bartner sifil,
disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person, neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
priod y person neu ei bartner sifil, neu
plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;
ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—
yn weithiwr yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
yn berson cyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru, a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, o leiaf unwaith yr wythnos.
(4) At ddibenion is-baragraff (3)—
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—
mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd, neu
mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig,
(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio,
(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau,
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw is-baragraff (3) neu (4) yn gymwys i’r person.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson sydd—
(a)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,
(b)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir), neu
(c)yn berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol,
sydd wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a chanddo hawl i breswylio’n barhaol,a
(b)sy’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir y mae P yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae P yn aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.
(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae P yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw P—
(a)yn briod neu’n bartner sifil i Q,
(b)yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—
(i)o dan 21 oed, neu
(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu
(c)pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil Q.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio, neu
(ii)yn aelod o deulu person o’r fath,
(b)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).
(2) Person—
(a)sy’n wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(3) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), nid yw gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os nad yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.
(5) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae person (“P”) yn aelod o deulu person arall (“Q”) os yw—
(a)P yn briod neu’n bartner sifil i Q,
(b)P yn ddisgynnydd uniongyrchol Q neu’n ddisgynnydd uniongyrchol priod neu bartner sifil Q a bod P—
(i)o dan 21 oed, neu
(ii)yn 21 oed neu drosodd ac yn ddibynnydd Q neu’n ddibynnydd priod neu bartner sifil Q, neu
(c)mewn achos pan fo Q yn wladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38, P yn berthynas uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol Q neu yn llinell esgynnol priod neu bartner sifil Q.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a
(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—
(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a
(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—
(a)â’r cwrs presennol, neu
(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,
i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—
(a)P,
(b)priod neu bartner sifil P,
(c)rhiant P, neu
(d)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;
(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;
(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.
(4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal—
(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond
(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,
i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Caiff person sy’n ymadael â gofal ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol hyd yn oed os yw’r person sy’n ymadael â gofal, ar y diwrnod hwnnw—
(a)yn derbyn gofal y tu allan i Gymru (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(i) yn gymwys i’r myfyriwr), neu
(b)yn preswylio y tu allan i Gymru o dan orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (mewn achos pan fo rheoliad 49(c)(ii) yn gymwys i’r myfyriwr),
o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol Cymreig.
(2) Ym mharagraff (1)—
ystyr “awdurdod lleol Cymreig” (“Welsh local authority”) yw awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
mae i “derbyn gofal” (“looked after”) yr ystyr a roddir yn adran 74 o’r Ddeddf honno;
mae i “person sy’n ymadael â gofal” (“care leaver”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 49 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
11. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan Wladwriaethau’r AEE;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(2);
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(3) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(4) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(5);
ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
[F9ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;]
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(6);
ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Diwygiadau Testunol
F9Geiriau yn Atod. 2 para. 11 wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
OJ Rhif L141, 27.05.2011, t. 1.
OJ Rhif L158, 30.04.2004, tt.77-123.
Gorch. 4904 ac OJ Rhif Ll 14, 30.04.02, t. 6.
Gorchmn. 9171.
Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.
1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).