11. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “AEE” (“EEA”) yw’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef y diriogaeth a ffurfir gan Wladwriaethau’r AEE;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);
[F1mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
[F1mae i “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE” yr ystyr a roddir i “EEA EFTA separation agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng yr UE a’i Aelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(3) fel y’i hestynnwyd gan ei Brotocol 1967(4);
[F2ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw, mewn perthynas â pherson (“A”), hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad sy’n codi o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ond dim ond pan fyddai A, pe bai’r ffeithiau a oedd yn ymwneud â phenderfynu hawl A i breswylio yn dod i’w hystyried yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi ennill hawl o’r fath o dan Gyfarwyddeb 2004/38 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;]
[F3ystyr “rheolau mewnfudo” (“immigration rules”) yw’r rheolau a osodir gerbron Senedd y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971;]
[F1mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;]
mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(5);
ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 11 wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(9)(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 11 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(9)(b)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 11 wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 16(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
OJ Rhif L158, 30.04.2004, tt.77-123.
Gorch. 4904 ac OJ Rhif Ll 14, 30.04.02, t. 6.
Gorchmn. 9171.
Gorchmn. 3906, daeth y Protocol i rym ar 4 Hydref 1967.
1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).