YR ATODLENNI

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 6 – Gwladolion UE F1— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021

6.

(1)

Person—

F2(a)

sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)

yn wladolyn UE,

(ii)

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu

(iii)

yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),

(b)

sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(c)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r F3Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)

na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r F4Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser (oni bai bod y person yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth honno yn unol â pharagraff 9(2)).

F5(1A)

Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu i fod yn gymwys ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(2)

Person—

(a)

sy’n wladolyn UE F6... ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)

mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r F7Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(3)

Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad yn is-baragraff (1)(a) neu (2)(a) fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

F8(4)

At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

F9(5)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .