YR ATODLENNI

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Categori 8 – Plant gweithwyr TwrcaiddI18

1

Person—

a

sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,

b

sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

c

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

2

Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—

a

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a

b

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.