8.—(1) Person—
(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd,
(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac
(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r [F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr] AEE, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gweithiwr Twrcaidd” yw gwladolyn Twrcaidd—
(a)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd, a
(b)sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 8(1)(c) wedi eu mewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1302), rhlau. 1(3), 31(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)