YR ATODLENNI

ATODLEN 2Categorïau o fyfyrwyr cymwys

Preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegolI19

1

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

a

â’r cwrs presennol, neu

b

gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol,

i’w ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

2

At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P”) i’w drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci pe bai P wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

a

P,

b

priod neu bartner sifil P,

c

rhiant P, neu

d

yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci.

3

At ddibenion is-baragraff (2), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

a

yn achos aelodau o’r lluoedd arfog, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath;

b

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath;

c

yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r F1Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

4

At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr cymwys sy’n garcharor i’w ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

5

At ddibenion yr Atodlen hon, mae ardal F2ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar

a

nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r AEE, ond

b

sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r tiriogaethau hyn,

i’w hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r AEE.