YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

Rheoliadau 48, 65(3), 66(2)(a) a 70(3)

RHAN 1Cyflwyniad

Trosolwg o’r AtodlenI11

1

Mae’r Atodlen hon wedi ei threfnu fel a ganlyn.

2

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys at ddibenion penderfynu ar swm—

a

grant cynhaliaeth (gweler rheoliadau 46 a 47),

b

grant at deithio (gweler rheoliadau 65 a 66), neu

c

grantiau ar gyfer dibynyddion (gweler Rhan 11),

sy’n daladwy i’r myfyriwr.

3

Mae Rhan 3 yn nodi ystyr “incwm trethadwy”, sy’n ofynnol er mwyn cyfrifo incwm gweddilliol person.

4

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm gweddilliol pan fo—

a

Pennod 1 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr, a

b

Pennod 2 yn nodi sut i gyfrifo incwm gweddilliol y personau eraill a ganlyn—

i

rhiant myfyriwr cymwys, partner myfyriwr cymwys neu bartner rhiant myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd y myfyriwr;

ii

oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

5

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net—

a

oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol (gweler rheoliad 71);

b

plant dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

6

Mae Rhan 6 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Incwm yr aelwyd

Incwm aelwyd myfyriwr cymwysI22

Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm yr aelwydI33

1

Mae incwm aelwyd myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—

Cam 1

Os nad yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol (gweler paragraff 4), cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr A.

Os yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol, cyfrifo cyfanred incwm gweddilliol y personau a restrir yn Rhestr B.

  • Rhestr A

  • Y personau yw—

a

y myfyriwr cymwys, plws

b

naill ai—

i

pob un o rieni’r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5), neu

ii

pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu, y rhiant a ddewisir o dan baragraff 6(3) a phartner y rhiant hwnnw (os oes un gan y rhiant hwnnw), (yn ddarostyngedig i baragraff 7).

Rhestr B

Y personau yw—

a

y myfyriwr cymwys annibynnol, plws

b

partner y myfyriwr (os oes un gan y myfyriwr), (yn ddarostyngedig i baragraffau 7 ac 8).

Cam 2

Cyfrifo swm cymwys didyniad plentyn dibynnol (gweler is-baragraffau (2) i (4)) a didynnu hynny o’r cyfanswm cyfanredol a gyfrifir o dan Gam 1.

Y canlyniad yw incwm aelwyd y myfyriwr cymwys.

2

Mae didyniad plentyn dibynnol yn ddidyniad a wneir mewn cysylltiad â phob plentyn sy’n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar—

a

y myfyriwr cymwys,

b

partner y myfyriwr cymwys,

c

rhiant y myfyriwr cymwys, neu

d

partner rhiant y myfyriwr cymwys,

pan fo incwm y person hwnnw yn cael ei ystyried at ddibenion cyfrifo incwm yr aelwyd.

3

Ond nid oes didyniad i’w wneud mewn cysylltiad â phlentyn—

a

rhiant y myfyriwr cymwys, neu

b

partner rhiant y myfyriwr cymwys,

os y myfyriwr cymwys yw’r plentyn.

4

Yn Nhabl 15, mae Colofn 2 yn nodi swm y didyniad plentyn dibynnol mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 1.

Tabl 15

Colofn 1

Blwyddyn academaidd

Colofn 2

Swm y didyniad plentyn dibynnol

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018

£1,130

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Myfyrwyr cymwys annibynnolI44

1

Mae myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol os yw un o’r achosion a ganlyn yn gymwys—

Achos 1

Mae’r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol.

Achos 2

Mae’r myfyriwr yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, pa un a yw’r briodas neu’r bartneriaeth sifil yn parhau i fod ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.

Achos 3

Nid oes gan y myfyriwr riant sy’n fyw.

Achos 4

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

na ellir dod o hyd i’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr, neu

b

nad yw’n rhesymol ymarferol cysylltu â’r naill na’r llall o rieni’r myfyriwr.

Achos 5

Naill ai—

a

nid yw’r myfyriwr wedi cyfathrebu â’r naill na’r llall o’i rieni am gyfnod o flwyddyn neu fwy sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, neu

b

ym marn Gweinidogion Cymru, mae’r myfyriwr wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni ar seiliau eraill mewn ffordd lle nad oes modd cymodi.

Achos 6

Mae rhieni’r myfyriwr yn preswylio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ac mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

c

y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm y rhieni yn gosod y rhieni hynny mewn perygl, neu

d

na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r rhieni anfon arian i’r Deyrnas Unedig at ddibenion rhoi cymorth i’r myfyriwr.

Achos 7

Pan fo paragraff 6 (rhieni sy’n gwahanu) yn gymwys, mae’r rhiant a ddewisir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (3) o’r paragraff hwnnw wedi marw, ni waeth a oedd gan y rhiant hwnnw bartner ai peidio.

Achos 8

Ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol, mae gan y myfyriwr ofal dros berson sydd o dan 18 oed.

Achos 9

Mae’r myfyriwr wedi cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr am unrhyw gyfnod o dair blynedd (neu gyfnodau sydd, gyda’i gilydd, yn dod i gyfanred o dair blynedd o leiaf) sy’n dod i ben cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol.

Achos 10

Pan fo myfyriwr yn fyfyriwr cymwys annibynnol yn rhinwedd Achos 9 mewn cysylltiad ag un flwyddyn academaidd, mae’r myfyriwr yn parhau i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol ar gyfer unrhyw flwyddyn academaidd ddilynol o’r cwrs dynodedig.

Achos 11

Mae’r myfyriwr yn berson sy’n ymadael â gofal o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 49.

2

At ddibenion Achos 9, mae myfyriwr cymwys yn cael ei drin fel pe bai’n cael ei gefnogi gan enillion y myfyriwr os, yn ystod y cyfnod neu’r cyfnodau y cyfeirir ato neu atynt yn Achos 9, yw un o’r seiliau a ganlyn yn gymwys—

Sail 1

Roedd y myfyriwr cymwys yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi personau di-waith o dan gynllun a weithredir, a noddir neu a gyllidir gan gorff cyhoeddus.

Sail 2

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael budd-dal sy’n daladwy gan gorff cyhoeddus mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael ar gyfer cyflogaeth ond sy’n ddi-waith.

Sail 3

Roedd y myfyriwr cymwys ar gael ar gyfer cyflogaeth ac wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cofrestru corff cyhoeddus fel amod o hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddiant neu i gael budd-daliadau.

Sail 4

Roedd gan y myfyriwr cymwys efrydiaeth wladol neu ddyfarndal tebyg.

Sail 5

Roedd y myfyriwr cymwys yn cael pensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd, anaf neu salwch y myfyriwr neu am reswm sy’n gysylltiedig â geni plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Rhiant myfyriwr cymwys yn marw gan adael rhiant sydd wedi goroesiI55

1

Pan fo—

a

rhiant myfyriwr cymwys yn marw cyn y flwyddyn academaidd gyfredol, a

b

incwm y rhiant hwnnw wedi, neu y byddai incwm y rhiant hwnnw wedi, cael ei ystyried at ddiben penderfynu ar incwm yr aelwyd,

dim ond incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi a gyfrifir yn gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

2

Pan fo’r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

a

incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52, a

b

incwm gweddilliol y rhiant sydd wedi goroesi ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,

Pan—

X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y ddau riant yn fyw, ac

Y yw nifer yr wythnosau sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd gyfredol.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Rhieni myfyriwr cymwys yn gwahanuI66

1

Pan fo rhieni’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, dim ond incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) sy’n cael ei gyfrifo’n gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).

2

Pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—

a

incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52; a

b

incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,

pan—

X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd y rhieni wedi gwahanu, ac

Y yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y rhieni wedi gwahanu.

3

Pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddewis y rhiant a chanddo’r incwm gweddilliol sydd fwyaf priodol ei ystyried o dan yr amgylchiadau.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Rhiant myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys annibynnol yn gwahanu o’i bartnerI77

Pan fo—

a

rhiant myfyriwr cymwys, neu

b

myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).

2

Pan fo—

a

rhiant y myfyriwr cymwys, neu

b

myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).

3

Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—

X×C/52

Pan—

  • X yw incwm gweddilliol—

    1. a

      partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu

    2. b

      partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,

    ar gyfer y flwyddyn academaidd gymwys;

  • C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—

    1. a

      rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu

    2. b

      y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,

    wedi gwahanu.

4

Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Myfyriwr cymwys annibynnol neu bartner yn rhiant i fyfyriwr cymwysI88

Pan fo—

a

myfyriwr cymwys annibynnol (A) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (PA) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (M), a

b

dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,

nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Incwm trethadwy

Incwm trethadwyI99

1

Yn yr Atodlen hon, ystyr incwm trethadwy person yw—

a

cyfanred—

i

cyfanswm yr incwm y codir treth incwm ar y person amdano o dan Gam 1 o adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 200752, a

ii

os nad ydynt eisoes yn elfen o gyfanswm yr incwm o dan is-baragraff (i), daliadau a budd-daliadau eraill a bennir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 200353 a geir gan y person neu sy’n cael eu trin fel pe baent wedi eu cael gan y person (ond diystyrir adran 401(2) o’r Ddeddf honno at ddibenion yr is-baragraff hwn), neu

b

pan fo deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall yn gymwys i incwm y person, gyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell fel y’u penderfynir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm yr Aelod-wladwriaeth honno.

2

At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

3

Ond nid yw incwm trethadwy person yn cynnwys incwm a delir i berson arall o dan orchymyn trefniadau pensiwn.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4Incwm gweddilliol

PENNOD 1Incwm gweddilliol myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwysI1010

At ddibenion cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys o dan Ran 2, cyfrifir incwm gweddilliol y myfyriwr fel a ganlyn—

Incwm trethadwy’r myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol

Plws

Incwm sy’n daladwy i’r myfyriwr cymwys o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 11 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy’r myfyriwr).

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwysI1111

At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, y didyniadau yw—

Didyniad A

Tâl a roddir i’r myfyriwr cymwys yn y flwyddyn academaidd gyfredol am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o’r cwrs, ond nid tâl mewn cysylltiad ag—

a

unrhyw gyfnod o absenoldeb a gymerir gan y myfyriwr, neu

b

cyfnod arall pan fydd y myfyriwr wedi ei ryddhau o ddyletswydd i fod yn bresennol yn y gwaith,

fel y caiff y myfyriwr ymgymryd â’r cwrs.

Didyniad B

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol mewn perthynas â phensiwn—

a

y rhoddir rhyddhad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 200454; neu

b

pan fo incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm.

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm myfyriwr cymwys a geir mewn arian cyfred ac eithrio sterlingI1212

1

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfred ac eithrio sterling, gwerth yr incwm yw—

a

swm y sterling y mae’r myfyriwr cymwys yn ei gael ar gyfer yr incwm, neu

b

pan na fo’r myfyriwr yn troi’r incwm yn sterling, gwerth y sterling y byddai’r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio cyfradd gyfnewid CThEM.

2

Cyfradd gyfnewid CThEM55 yw’r gyfradd a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y mis sy’n cyfateb i’r mis y ceir yr incwm ynddo.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2Incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Personau y mae’r bennod hon yn gymwys iddyntI1313

Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—

a

pan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys—

i

rhiant y myfyriwr cymwys,

ii

partner y myfyriwr cymwys, neu

iii

partner rhiant y myfyriwr cymwys,

yn ôl y digwydd;

b

oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysI1414

Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysI1515

1

At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

a

y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

b

pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

a

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

b

wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysI1616

1

Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.

2

Oni bai bod is-baragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

4

Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

5

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

a

os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

b

fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm o fusnes neu broffesiwnI1717

1

Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

a

y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a

b

bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.

2

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwmI1818

1

Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall.

2

Y rhesymau yw—

Rheswm 1

a

nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu

b

cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

Rheswm 2

a

nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu

b

nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.

Rheswm 3

Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.

3

Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterlingI1919

1

Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol a’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.

2

Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5Incwm net dibynyddion

Incwm net dibynyddionI2020

Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo incwm net y dibynyddion a ganlyn—

a

oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion penderfynu a yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant oedolion dibynnol (gweler rheoliad 71);

b

plant dibynnol myfyriwr cymwys, at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm netI2121

1

Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell ar gyfer y flwyddyn berthnasol wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno ond gan ddiystyru—

a

unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd dibynnydd;

b

budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran 9 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199256;

c

unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200257;

d

unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199258;

e

yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 198959 neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201460;

f

unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 198961;

g

unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol â—

i

adran 24 o’r Ddeddf honno62, neu

ii

adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;

h

unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200263;

i

yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 201264

i

unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 201365, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch cysylltiedig â gwaith,

ii

unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny 66 (elfen y plentyn).

2

At ddibenion y paragraff hwn, trinnir taliadau a wneir i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth plentyn dibynnol fel incwm y plentyn dibynnol.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn berthnasol” yw—

a

mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn academaidd gyfredol;

b

mewn cysylltiad â phlentyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn ariannol gymwys a benderfynir o dan baragraff 22.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm net plant dibynnol myfyriwr cymwysI2222

1

Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm net plentyn dibynnol myfyriwr cymwys (“Pl”).

2

Oni bai bod paragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

4

Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

5

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

a

os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm net Pl ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm net Pl ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

b

fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6Dehongli

DehongliI2323

1

Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—

a

priod neu bartner sifil A; neu

b

person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

2

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;

  • ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;

  • ystyr “BG” (CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;

  • ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

  • ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16 neu 22;

  • ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;

  • ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—

    1. a

      adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 197367 sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)68, neu

    2. b

      Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 200469 sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).