YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 4Incwm gweddilliol

PENNOD 2Incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysI114

Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).