Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C
14. Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—
Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.
Plws
Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.
Minws
Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)