YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 4Incwm gweddilliol

PENNOD 2Incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysI115

1

At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

a

y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

b

pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

a

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

b

wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.