YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 5Incwm net dibynyddion

Incwm netI121

1

Incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell ar gyfer y flwyddyn berthnasol wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno ond gan ddiystyru—

a

unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd dibynnydd;

b

budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran 9 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199256;

c

unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200257;

d

unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199258;

e

yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 198959 neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201460;

f

unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 198961;

g

unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol â—

i

adran 24 o’r Ddeddf honno62, neu

ii

adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno;

h

unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200263;

i

yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarndal o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 201264

i

unrhyw swm a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 201365, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd allu cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch cysylltiedig â gwaith,

ii

unrhyw swm neu swm ychwanegol a gynhwysir wrth gyfrifo’r dyfarndal o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny 66 (elfen y plentyn).

2

At ddibenion y paragraff hwn, trinnir taliadau a wneir i’r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth plentyn dibynnol fel incwm y plentyn dibynnol.

3

Yn y paragraff hwn, ystyr “blwyddyn berthnasol” yw—

a

mewn cysylltiad ag oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn academaidd gyfredol;

b

mewn cysylltiad â phlentyn dibynnol myfyriwr cymwys, y flwyddyn ariannol gymwys a benderfynir o dan baragraff 22.