YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 6Dehongli

DehongliI123

1

Yn yr Atodlen hon, ystyr unrhyw gyfeiriad at bartner person (“A”) yw—

a

priod neu bartner sifil A; neu

b

person sy’n byw fel arfer gydag A fel pe bai’r person yn briod neu’n bartner sifil A.

2

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “BF” (“PY”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BG;

  • ystyr “BF-1” (“PY-1”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn BF;

  • ystyr “BG” (CY”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyfredol;

  • ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw blwyddyn academaidd y cwrs presennol y mae’r myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifiennir incwm person mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy’n gymwys iddo;

  • ystyr “blwyddyn ariannol gymwys” (“applicable financial year”) yw’r flwyddyn ariannol y penderfynir arni yn unol â pharagraff 16 neu 22;

  • ystyr “corff cyhoeddus” (“public body”) yw awdurdod neu asiantaeth i’r wladwriaeth, boed yn genedlaethol, yn rhanbarthol neu’n lleol;

  • ystyr “gorchymyn trefniadau pensiwn” (“pension arrangements order”) yw gorchymyn y mae person yn talu odano fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn i berson arall o dan—

    1. a

      adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 197367 sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 25B(4) (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd adran 25E(3) o’r Ddeddf honno)68, neu

    2. b

      Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 200469 sy’n cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd Rhan 6 o’r Atodlen honno (a chan gynnwys gorchymyn o’r fath fel y gall gael effaith yn rhinwedd Rhan 7 o’r Atodlen honno).