xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Pan fo rhieni’r myfyriwr cymwys wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, dim ond incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) sy’n cael ei gyfrifo’n gyfanred at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1).
(2) Pan fo rhieni’r myfyriwr wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, incwm gweddilliol rhieni’r myfyriwr cymwys, at ddibenion Cam 1 ym mharagraff 3(1), yw cyfanred—
(a)incwm gweddilliol y ddau riant ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â X/52; a
(b)incwm gweddilliol y rhiant a ddewisir o dan is-baragraff (3) ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys wedi ei luosi â Y/52,
pan—
X yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd y rhieni wedi gwahanu, ac
Y yw nifer yr wythnosau yn y flwyddyn academaidd gyfredol pan oedd y rhieni wedi gwahanu.
(3) Pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddewis y rhiant a chanddo’r incwm gweddilliol sydd fwyaf priodol ei ystyried o dan yr amgylchiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)