Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Rhiant myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys annibynnol yn gwahanu o’i bartnerLL+C

7.  Pan fo—

(a)rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).

(2Pan fo—

(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu

(b)myfyriwr cymwys annibynnol

wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).

(3Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—

X×C/52

Pan—

  • X yw incwm gweddilliol—

    (a)

    partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu

    (b)

    partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,

    ar gyfer y flwyddyn academaidd gymwys;

  • C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—

    (a)

    rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu

    (b)

    y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,

    wedi gwahanu.

(4Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)