Rhiant myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys annibynnol yn gwahanu o’i bartnerLL+C
7. Pan fo—
(a)rhiant myfyriwr cymwys, neu
(b)myfyriwr cymwys annibynnol
wedi gwahanu o’i bartner drwy gydol y flwyddyn academaidd gyfredol, nid yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1).
(2) Pan fo—
(a)rhiant y myfyriwr cymwys, neu
(b)myfyriwr cymwys annibynnol
wedi gwahanu o’i bartner yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol, cyfrifir swm incwm gweddilliol y partner sydd i’w gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 drwy gymhwyso’r fformiwla yn is-baragraff (3).
(3) Y fformiwla sydd i’w chymhwyso yw—
X×C/52
Pan—
X yw incwm gweddilliol—
(a)partner rhiant y myfyriwr cymwys, pan fo Rhestr A o Gam 1 yn gymwys, neu
(b)partner y myfyriwr cymwys annibynnol, pan fo Rhestr B o Gam 1 yn gymwys,
ar gyfer y flwyddyn academaidd gymwys;
C yw nifer wythnosau cyflawn y flwyddyn academaidd gyfredol pan nad oedd—
(a)rhiant y myfyriwr cymwys a’i bartner, neu
(b)y myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr,
wedi gwahanu.
(4) Pan fo gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae’r paragraff hwn a Cham 1 o baragraff 3(1) yn gymwys mewn perthynas â phob partner.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)