YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 2Incwm yr aelwyd

Myfyriwr cymwys annibynnol neu bartner yn rhiant i fyfyriwr cymwys8

Pan fo—

a

myfyriwr cymwys annibynnol (A) neu bartner y myfyriwr cymwys annibynnol (PA) yn rhiant i fyfyriwr cymwys (M), a

b

dyfarndal statudol sy’n daladwy i M wedi ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm gweddilliol A neu PA, neu’r ddau,

nid yw incwm gweddilliol PA yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Restr B o Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddibenion cyfrifo incwm aelwyd A.