YR ATODLENNI

ATODLEN 3Cyfrifo incwm

RHAN 3Incwm trethadwy

Incwm trethadwyI19

1

Yn yr Atodlen hon, ystyr incwm trethadwy person yw—

a

cyfanred—

i

cyfanswm yr incwm y codir treth incwm ar y person amdano o dan Gam 1 o adran 23 o Ddeddf Treth Incwm 200752, a

ii

os nad ydynt eisoes yn elfen o gyfanswm yr incwm o dan is-baragraff (i), daliadau a budd-daliadau eraill a bennir yn adran 401(1) o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 200353 a geir gan y person neu sy’n cael eu trin fel pe baent wedi eu cael gan y person (ond diystyrir adran 401(2) o’r Ddeddf honno at ddibenion yr is-baragraff hwn), neu

b

pan fo deddfwriaeth treth incwm F1Aelod-wladwriaeth yn gymwys i incwm y person, gyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell fel y’u penderfynir at ddibenion deddfwriaeth treth incwm yr Aelod-wladwriaeth honno.

F22

At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan fo deddfwriaeth treth incwm—

a

y Deyrnas Unedig ac un neu ragor o Aelod-wladwriaethau, neu

b

mwy nag un Aelod-wladwriaeth,

yn gymwys i’r person mewn cysylltiad â’r flwyddyn sydd o dan ystyriaeth, cyfanswm incwm y person o bob ffynhonnell yw’r swm sy’n deillio o’r penderfyniad sy’n arwain at swm mwyaf cyfanswm yr incwm, gan gynnwys unrhyw incwm y mae’n ofynnol ei ystyried o dan baragraff 18.

3

Ond nid yw incwm trethadwy person yn cynnwys incwm a delir i berson arall o dan orchymyn trefniadau pensiwn.