xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

ATODLEN 3LL+CCyfrifo incwm

RHAN 4LL+CIncwm gweddilliol

PENNOD 2LL+CIncwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwys

Personau y mae’r bennod hon yn gymwys iddyntLL+C

13.  Mae’r Bennod hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo incwm gweddilliol person (“P”) pan fo P yn golygu’r canlynol—

(a)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifo’n gyfanred o dan Gam 1 ym mharagraff 3(1) at ddiben cyfrifo incwm aelwyd myfyriwr cymwys—

(i)rhiant y myfyriwr cymwys,

(ii)partner y myfyriwr cymwys, neu

(iii)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

yn ôl y digwydd;

(b)oedolyn dibynnol myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo swm y grant ar gyfer dibynyddion sy’n daladwy i’r myfyriwr (gweler rheoliad 77).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

14.  Cyfrifir incwm gweddilliol P fel a ganlyn—

Incwm trethadwy P ar gyfer y flwyddyn ariannol gymwys.

Plws

Incwm sy’n daladwy i P o dan orchymyn trefniadau pensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys ar ôl didynnu treth incwm.

Minws

Cyfanred y didyniadau a nodir ym mharagraff 15 (oni bai eu bod eisoes wedi eu didynnu at ddibenion penderfynu ar incwm trethadwy P).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Didyniadau at ddiben cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

15.—(1At ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P, y didyniadau yw—

Didyniad A

Swm gros unrhyw bremiwm neu swm a delir gan P mewn cysylltiad â phensiwn yn ystod y flwyddyn ariannol gymwys—

(a)y rhoddir rhyddhad mewn perthynas ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu

(b)pan fo incwm P yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef pe bai’r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r ddarpariaeth yn y Deddfau Treth Incwm,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw swm a delir fel premiwm o dan bolisi aswiriant bywyd.

Didyniad B

Pan fo paragraff 18 yn gymwys, swm sy’n cyfateb i Ddidyniad A ar yr amod nad yw’r swm hwn yn fwy na’r didyniadau a fyddai’n cael eu gwneud pe bai holl incwm P yn incwm at ddibenion Deddfau Treth Incwm mewn gwirionedd.

Didyniad C

£1,130, pan fo P—

(a)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol ond hefyd yn rhiant myfyriwr cymwys, neu

(b)wedi cael dyfarndal statudol mewn cysylltiad â’r un cyfnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol cymwys: cyfrifo incwm gweddilliol personau ac eithrio myfyriwr cymwysLL+C

16.—(1Mae’r paragraff hwn yn pennu’r flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P.

(2Oni bai bod is-baragraffau (3) neu (5) yn gymwys, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF-1.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF-1, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG.

(4Mae is-baragraff (5) yn gymwys os y flwyddyn ariannol a oedd yn dechrau yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd flaenorol oedd y flwyddyn ariannol gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol.

(5Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae’r flwyddyn ariannol gymwys i’w phenderfynu fel a ganlyn—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm gweddilliol P ar gyfer BG yn debygol o fod o leiaf 15% yn llai nag incwm gweddilliol P ar gyfer BF, y flwyddyn ariannol gymwys yw BG;

(b)fel arall, y flwyddyn ariannol gymwys yw BF.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm o fusnes neu broffesiwnLL+C

17.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)y flwyddyn ariannol gymwys at ddibenion cyfrifo incwm gweddilliol P yw BF-1, a

(b)bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm P yn deillio’n gyfan gwbl neu’n bennaf o elw busnes neu broffesiwn a gynhelir gan P.

(2Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, incwm gweddilliol P yw ei incwm ar gyfer y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy’n dod i ben yn BF-1 y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â busnes neu broffesiwn P.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Trin incwm nas trinnir fel incwm at ddibenion treth incwmLL+C

18.—(1Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo P yn cael unrhyw incwm nad yw, am unrhyw un neu ragor o’r rhesymau a nodir yn is-baragraff (2), yn ffurfio rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall.

(2Y rhesymau yw—

Rheswm 1

(a)nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)cyfrifiennir incwm P at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall ac nid yw P yn preswylio nac wedi ymgartrefu yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

Rheswm 2

(a)nid yw incwm P yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu

(b)nid yw incwm P yn codi yn yr Aelod-wladwriaeth y cyfrifiennir incwm P ynddi at ddibenion deddfwriaeth treth incwm y Wladwriaeth honno.

Rheswm 3

Mae’r incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae’r incwm ohoni neu ohono yn esempt rhag treth.

(3Mae incwm trethadwy P i’w gymryd i gynnwys yr incwm a ddisgrifir yn is-baragraff (1) fel pe bai’n rhan o incwm P at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)

Incwm P mewn arian cyfred ac eithrio sterlingLL+C

19.—(1Pan fo incwm P wedi ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae incwm gweddilliol P i’w gyfrifo yn unol a’r Rhan hon yn arian cyfred yr Aelod-wladwriaeth honno ac i’w gymryd fel gwerth sterling yr incwm hwnnw a benderfynir yn unol â chyfradd berthnasol CThEM.

(2Cyfradd berthnasol CThEM yw’r gyfradd gyfnewid ar gyfartaledd a ddyroddir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y flwyddyn galendr sy’n dod i ben yn union cyn diwedd BF-1.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)