YR ATODLENNI
ATODLEN 4Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl
Grant myfyriwr ôl-raddedig anablI11
1
Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sydd ag anabledd er mwyn ei gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd y myfyriwr.
2
Yn yr Atodlen hon, ystyr “cwrs ôl-radd presennol” yw’r cwrs y mae person yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 17.
Cyrsiau ôl-radd dynodedigI22
1
Yn yr Atodlen hon (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998), mae cwrs yn gwrs ôl-radd dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—
Amod 1
Fel arfer mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu uwch yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i’r cwrs.
Amod 2
Nid yw’r cwrs yn gwrs rhyngosod.
Amod 3
Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.
Amod 4
Mae’r cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus.
Amod 5
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
Amod 6
Nid yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2)).
2
At ddibenion Amod 4—
a
mae cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
b
c
ni fernir bod sefydliad yn F1sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus dim ond oherwydd ei fod yn sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy’n cael, oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad arall, y cyfan neu ran o unrhyw grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a ddarperir F2... i’r sefydliad arall hwnnw yn unol ag adran 65(3A)70 o’r Ddeddf honno.
Dynodi cyrsiau ôl-radd eraillI33
1
Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs ôl-radd i’w drin yn gwrs ôl-radd dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs ôl-radd dynodedig, oni bai am y pennu.
2
Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs ôl-radd o dan is-baragraff (1).
Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys
I44
1
Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef—
a
os oes gan y person anabledd; a
b
naill ai—
i
os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau o bersonau a nodir yn Atodlen 2 ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r person, neu
ii
os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir ym mharagraff 6.
2
Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs ôl-radd dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar unrhyw un adeg.
I55
1
Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Ar unrhyw un adeg, mae P hefyd yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.
Eithriad 2
Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs ôl-radd dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—
a
bwrsari gofal iechyd,
b
lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007,
c
lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Ymchwil, neu
d
lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed—
i
gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs,
ii
o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 200071, neu
iii
o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201672,
sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol yr aeth P iddo oherwydd ei anabledd.
Eithriad 3
Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Eithriad 4
Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb am fenthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.
Eithriad 5
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
Eithriad 6
Mae P yn garcharor.
Ond caiff P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys er ei fod yn garcharor—
a
os yw cais P am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi, neu
b
os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs ôl-radd dynodedig a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Eithriad 7
Mae P yn fyfyriwr Categori 6 yn rhinwedd paragraff 6(1) o Atodlen 2 yn unig ac nid yw’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r categorïau eraill o fyfyriwr cymwys a bennir yn yr Atodlen honno.
2
Yn Eithriadau 3 a 4, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—
a
Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990;
b
Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;
c
Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;
d
Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998;
e
rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;
f
rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998.
Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys sy’n parhau ar gwrsI66
1
Mae person (“P”)—
a
sydd ag anabledd, a
b
y mae ei amgylchiadau yn dod o fewn un o’r achosion a ganlyn,
yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys (yn unol â hynny, nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyrwyr cymwys a nodir yn Atodlen 2 ac nid yw’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 yn gymwys i P).
2
Yr achosion yw—
Achos 1
a
roedd P yn cymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, a
b
roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol.
Achos 2
a
roedd P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol,
b
mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs ôl-radd presennol (gweler paragraff 15),ac
c
roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.
Cyfnod cymhwystraI77
1
Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â pharagraff 9, 10, 12 neu 13.
2
Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.
Cyrsiau rhan-amser – dim cymhwystra am flynyddoedd o astudio dwysedd iselI88
Pan fo’r cwrs ôl-radd presennol yn gwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr ôl-radd cymwys yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 o ran sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).
Terfynu cymhwystra yn gynnarI99
Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
a
pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan baragraff 15,
b
pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono, neu
c
pan fydd P F6hefyd yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.
Terfynu o ganlyniad i gamymddygiad neu fethu â darparu gwybodaeth gywirI1010
1
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
2
Mae is-baragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
a
wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr Atodlen hon i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth, neu
b
wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
3
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
a
terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
b
penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl neu swm o grant o’r fath y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
Adfer cymhwystra ar ôl iddo gael ei derfynuI1111
1
Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan baragraff 9 neu 10 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
2
Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.
Ffoaduriaid y mae eu caniatâd i aros wedi dod i benI1212
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
ii
mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan baragraff 15, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—
i
P, neu
ii
y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2,
wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
3
Yn y paragraff hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.
F5Personau y mae eu caniatâd i aros fel personau diwladwriaeth wedi dod i ben12A
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2A (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
ii
mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
i
P, neu
ii
y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys Categori 2A,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
Personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i benI1313
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
i
ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
ii
mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
b
pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
i
P, neu
ii
y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
Dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddI1414
1
Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
2
Ond ni fydd swm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ond mewn cysylltiad â’r chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd.
3
Y digwyddiadau yw—
a
bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;
b
bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar y sail–
i
bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n F3dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
ii
bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
iii
bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
iv
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
v
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
vi
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
4
Yn is-baragraff (3) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);
F4“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);
“plentyn” (“child”);
“rhiant” (“parent”).
Trosglwyddo rhwng cyrsiau ôl-raddI1515
1
Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall—
a
os cânt gais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,
b
os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler is-baragraff (2)), ac
c
os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.
2
Y seiliau trosglwyddo yw—
Y sail gyntaf
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn peidio ag ymgymryd ag un cwrs ôl-radd dynodedig ac yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad.
Yr ail sail
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.
Effaith y trosglwyddoI1616
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) o dan baragraff 15—
a
cânt ailasesu swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i P ar ôl y trosglwyddo;
b
ond os na wneir ailasesiad, mae gan P hawlogaeth, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yr asesodd Gweinidogion Cymru fod gan P hawlogaeth i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono.
2
Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn trosglwyddo—
a
ar ôl i Weinidogion Cymru asesu hawlogaeth P i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono, ond
b
cyn i P gwblhau’r flwyddyn honno,
ni chaiff P wneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P wedi trosglwyddo iddo.
Ceisiadau a phenderfyniadau
I1717
1
Nid yw person yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y grant mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
2
Rhaid i gais o dan is-baragraff (1)—
a
bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,
b
cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac
c
cyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
I1818
1
Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais.
2
Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.
3
Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais (gweler paragraff 21 ar gyfer darpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).
4
Caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—
a
cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu
b
rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais.
6
Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
a
a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,
b
os felly, a yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,
c
os yw’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,
d
dadansoddiad sy’n pennu symiau’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff 20(2), ac
e
yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.
Gofynion ar fyfyrwyr ôl-radd cymwys i ddarparu gwybodaethI1919
1
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru iddynt ei chael at ddibenion yr Atodlen hon.
2
Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr ôl-raddedig cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.
3
Y digwyddiadau yw—
a
bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs ôl-radd presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
b
bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);
c
bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs ôl-radd presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
d
bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs ôl-radd presennol—
i
am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu
ii
am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
e
bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs ôl-radd presennol neu ei gwblhau yn newid;
f
bod y manylion a ganlyn, sef—
i
cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,
ii
rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu
iii
cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,
yn newid.
4
Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan yr Atodlen hon ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.
5
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—
a
cais o dan baragraff 17;
b
unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan yr Atodlen hon,
yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.
6
Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn is-baragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan baragraff 17 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.
7
Gweler paragraff 10 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y paragraff hwn.
Swm grant myfyriwr ôl-raddedig anablI2020
1
Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r lleiaf o’r canlynol—
a
£10,590, neu
b
swm y gwariant cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn ofynnol i’r myfyriwr fynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs ôl-radd presennol oherwydd anabledd y myfyriwr.
2
At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “gwariant cymwys” yw gwariant at unrhyw un neu ragor o’r dibenion canlynol—
a
gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
b
gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
c
gwariant yr eir iddo—
i
o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad, a
ii
o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs ôl-radd presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
TaluI2121
1
Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn meddwl eu bod yn briodol.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn meddwl bod hynny’n briodol, dalu unrhyw swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn un taliad mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfan.
4
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.
5
Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.
6
Os yw’r gofyniad hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl hyd nes bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cydymffurfio.
GordaliadauI2222
1
Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael taliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n fwy na’r swm y mae hawlogaeth ganddo i’w gael, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ond nad yw, neu nad yw mwyach, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.
4
Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.
5
Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—
Achos 1
Mae swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol, ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.
Achos 2
Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
6
Caniateir adennill gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
7
Pan—
a
bo gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, a
b
bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,
caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.
8
Nid yw is-baragraffau (6) a (7) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.