xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rheoliad 98
1.—(1) Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn grant sy’n cael ei roi ar gael gan Weinidogion Cymru i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sydd ag anabledd er mwyn ei gynorthwyo gyda gwariant ychwanegol mewn cysylltiad â chostau byw y mae’n ofynnol i’r myfyriwr fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd y myfyriwr.
(2) Yn yr Atodlen hon, ystyr “cwrs ôl-radd presennol” yw’r cwrs y mae person yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff 17.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yn yr Atodlen hon (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998), mae cwrs yn gwrs ôl-radd dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—
Amod 1
Fel arfer mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu uwch yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i’r cwrs.
Amod 2
Nid yw’r cwrs yn gwrs rhyngosod.
Amod 3
Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.
[F1Amod 4
( a)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;
(b)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;]
Amod 5
Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.
Amod 6
Nid yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2)).
(2) At ddibenion Amod 4—
(a)mae cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;
(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn [F2sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus] os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn [F2sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus] ;
[F3(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—
(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu
(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.]
[F4(3) At ddibenion is-baragraff (2)—
(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a
(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 4 para. 2(1) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(a)
F2Geiriau yn Atod. 4 para. 2(2) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 17(a)
F3Atod. 4 para. 2(2)(c) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(b)
F4Atod. 4 para. 2(3) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru bennu bod cwrs ôl-radd i’w drin yn gwrs ôl-radd dynodedig er gwaethaf y ffaith na fyddai fel arall yn gwrs ôl-radd dynodedig, oni bai am y pennu.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu pennu cwrs ôl-radd o dan is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
4.—[F5(1) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig y mae’r person yn ymgymryd ag ef os oes gan y person anabledd ac—
(a)mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw’r person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—
(i)ym mharagraff 1(1), 1(2), 2, 2ZA, 2ZB, 3, 4A, 5A, 6A(2), 6B, 7A neu 8A o Atodlen 2, neu
(ii)ym mharagraff 4, 5, 6(2), 7 neu 8 o Atodlen 2 pan fo is-baragraff (1A) yn gymwys,
ac nad yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau ym mharagraff 5 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r person, neu
(b)os yw amgylchiadau’r person yn dod o fewn un o’r achosion a nodir ym mharagraff 6.
(1A) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021—
(i)pan benderfynodd Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), fod A yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraff 4, 5, 6(2), 7 neu 8 o Atodlen 2 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Awst 2021, neu
(ii)pan fyddai Gweinidogion Cymru wedi penderfynu felly pe bai A wedi gwneud cais am gymorth yn unol â’r Atodlen hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn y dyddiad hwnnw, a
(b)pan fo A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag—
(i)y cwrs hwnnw, neu
(ii)cwrs ôl-radd dynodedig y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cael ei drosglwyddo iddo yn unol â’r Atodlen hon.]
(2) Dim ond mewn cysylltiad ag un cwrs ôl-radd dynodedig y caiff person fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar unrhyw un adeg.
Diwygiadau Testunol
F5Atod. 4 para. 4(1)(1A) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 4 para. 4(1) (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 145
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Nid yw person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys os yw unrhyw un neu ragor o’r eithriadau a ganlyn yn gymwys—
Eithriad 1
Ar unrhyw un adeg, mae P hefyd yn cymhwyso i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.
Eithriad 2
Mewn cysylltiad â P yn ymgymryd â’r cwrs ôl-radd dynodedig, rhoddwyd i P neu talwyd iddo—
(a)bwrsari gofal iechyd,
(b)lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007,
(c)lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Ymchwil, neu
(d)lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wnaed—
(i)gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs,
(ii)o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [F6, neu o dan adran 46 o Ddeddf Plant a Gwaith Cymdeithasol 2017,] (1), neu
(iii)o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2),
sy’n cynnwys unrhyw daliad at ddiben talu am wariant ychwanegol yr aeth P iddo oherwydd ei anabledd.
Eithriad 3
Mae P wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu benthyciad myfyriwr.
Eithriad 4
Mae P wedi cyrraedd 18 oed ac nid yw wedi dilysu cytundeb am fenthyciad myfyriwr a wnaed gyda P pan oedd P o dan 18 oed.
Eithriad 5
Mae Gweinidogion Cymru yn meddwl bod ymddygiad P o’r fath fel nad yw P yn addas i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
Eithriad 6
Mae P yn garcharor.
Ond caiff P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys er ei fod yn garcharor—
(a)os yw cais P am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd y mae P yn mynd i’r carchar neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ynddi, neu
(b)os yw P wedi cael ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs ôl-radd dynodedig a bod dyddiad rhyddhau cynharaf P o fewn 6 mlynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
[F7Eithriad 7
Mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028 a’r unig baragraff neu baragraffau yn Atodlen 2 y mae P yn dod o’i fewn neu o’u mewn yw un neu ragor o baragraffau 5A neu 6B.]
(2) Yn Eithriadau 3 a 4, ystyr “benthyciad myfyriwr” yw benthyciad a wneir o dan—
(a)Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990;
(b)Deddf Addysg (Yr Alban) 1980;
(c)Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;
(d)Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998;
(e)rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r Deddfau neu’r Gorchmynion hynny;
(f)rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn Atod. 4 para 5(1)(d)(ii) wedi eu mewnosod (2.12.2019) gan The Children and Social Work Act 2017 (Consequential Amendments) (Social Workers) Regulations 2019 (O.S. 2019/1094), rhl. 1, Atod. 3 para. 43(2); O.S. 2019/1436, rhl. 2(b)
F7Geiriau yn Atod. 4 para. 5(1)wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 146
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Mae person (“P”)—
(a)sydd ag anabledd, a
(b)y mae ei amgylchiadau yn dod o fewn un o’r achosion a ganlyn,
yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys (yn unol â hynny, nid oes angen i P ddod o fewn unrhyw un o’r categorïau o fyfyrwyr cymwys a nodir yn Atodlen 2 ac nid yw’r eithriadau a nodir ym mharagraff 5 yn gymwys i P).
(2) Yr achosion yw—
Achos 1
(a)roedd P yn cymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, a
(b)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd presennol.
Achos 2
(a)roedd P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig (y “cwrs cynharach”) ac eithrio’r cwrs ôl-radd presennol,
(b)mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs cynharach wedi cael ei drosglwyddo i’r cwrs ôl-radd presennol (gweler paragraff 15),ac
(c)roedd P yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cynharach.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig tan ddiwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr oni bai bod ei statws wedi ei derfynu yn unol â pharagraff 9, 10, 12 neu 13.
(2) Daw cyfnod cymhwystra myfyriwr i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
8. Pan fo’r cwrs ôl-radd presennol yn gwrs rhan-amser, nid yw’r myfyriwr ôl-radd cymwys yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd pan fo’r dwysedd astudio ar gyfer y flwyddyn honno yn llai na 25% (gweler paragraff 5 o Atodlen 1 o ran sut i gyfrifo’r dwysedd astudio ar gyfer blwyddyn academaidd).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
9. Mae cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn terfynu ar ddiwedd y diwrnod—
(a)pan fydd P yn tynnu’n ôl o’i gwrs ôl-radd dynodedig ac nad yw Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys o dan baragraff 15,
(b)pan fydd P yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono, neu
(c)pan fydd P [F8hefyd yn cymhwyso i gael cymorth] mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998 oni bai bod y cwrs yn un y mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu gymhwyster uwch yn ofyniad mynediad arferol ar ei gyfer.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn Atod. 4 para. 9(c) wedi eu hamnewid (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 18(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
(2) Mae is-baragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr Atodlen hon i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth, neu
(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
(3) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl neu swm o grant o’r fath y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr yn terfynu o dan baragraff 9 neu 10 yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd presennol ynddi, caiff Gweinidogion Cymru adfer cyfnod cymhwystra’r myfyriwr am unrhyw gyfnod y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
(2) Ond ni chaniateir i gyfnod cymhwystra sydd wedi ei adfer estyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs ôl-radd dynodedig ynddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2 (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo statws ffoadur—
(i)P, neu
(ii)y person yr oedd ei statws fel ffoadur yn golygu bod P yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 2,
wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
(3) Yn y paragraff hwn, mae i “ffoadur” yr ystyr a roddir gan baragraff 11 o Atodlen 2.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
12A.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys [F10yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros fel person diwladwriaeth] (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys F11...,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes cais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.]
Diwygiadau Testunol
F9Atod. 4 para. 12A wedi ei fewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 17(b)
F10Geiriau yn Atod. 4 para. 12A(1)(a) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 147(a)
F11Geiriau yn Atod. 4 para. 12A(1)(b)(ii) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 147(b)
13.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) [F12yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 neu’n fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo (gweler Atodlen 2)] mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd bod ganddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros, a oedd yn peri i P fod [F13neu’n fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo] ,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn Atod. 4 para. 13(1)(a) wedi eu hamnewid (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 49(a)
F13Geiriau yn Atod. 4 para. 13(1)(b)(ii) wedi eu mewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 49(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
13A.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys [F15yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67] (gweler Atodlen 2) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwysF16...,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.]
Diwygiadau Testunol
F14Atod. 4 para. 13A wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(d)
F15Geiriau yn Atod. 4 para. 13A(1)(a) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 148(a)
F16Geiriau yn Atod. 4 para. 13A(1)(b)(ii) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 148(b)
13B.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZA) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
Diwygiadau Testunol
F17Atod. 4 parau. 13B-13E wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 149
13C.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZB) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff—
(i)P, neu
(ii)y person, oherwydd ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir, a oedd yn peri i P fod yn fyfyriwr cymwys,
aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002).
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
Diwygiadau Testunol
F17Atod. 4 parau. 13B-13E wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 149
13D.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â hawliau gwarchodedig a chanddo ganiatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, na fo gan P ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, ac nad yw caniatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi cael ei roi o dan y rheolau hynny.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi.
Diwygiadau Testunol
F17Atod. 4 parau. 13B-13E wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 149
13E. Pan—
(a)bo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“P”), yn rhinwedd—
(i)dod o fewn paragraff (a)(iii) neu (iv) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”, neu
(ii)bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2)(a)(iii) neu (iv) o Atodlen 2,
yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs ôl-radd dynodedig, a
(b)ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd, na fo P yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,
bydd statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.]
Diwygiadau Testunol
F17Atod. 4 parau. 13B-13E wedi ei fewnosod (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 2 yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 149
14.—(1) Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
(2) Ond ni fydd swm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ond mewn cysylltiad â’r [F18flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd].
(3) Y digwyddiadau yw—
(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;
(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar y sail–
[F19(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;]
[F20(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 [F21neu’n berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir];]
[F22(ib)bod y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd Calais;]
F23(ii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F24(iii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 2;]
[F25(iv)pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, bod y person yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 8(1)(a) o Atodlen 2;]
(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym [F26mharagraff 4A(1)(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym] mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
[F27(vi)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 7A(a) o Atodlen 2 neu, pan fo paragraff 4(1A)(a) o’r Atodlen hon yn gymwys, ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 2;]
[F28(vii)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6B(1)(a)(ii) o Atodlen 2.]
(4) Yn is-baragraff (3) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“ffoadur” (“refugee”);
F29...
F30...
[F31“person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”);]
[F32“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);
[F31“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”);]
[F33“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);]
F34...
[F35“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);]
“rhiant” (“parent”).
Diwygiadau Testunol
F18Geiriau yn Atod. 4 para. 14(2) wedi eu hamnewid (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 1(2) yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 11(a)
F19Atod. 4 para. 14(3)(b)(i) wedi ei amnewid (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 50(a)
F20Atod. 4 para. 14(3)(b)(ia) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(e)
F21Geiriau yn Atod. 4 para. 14(3)(b)(ia) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(i)
F22Atod. 4 para. 14(3)(b)(ib) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(ii)
F23Atod. 4 para. 14(3)(b)(ii) wedi ei hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(iii)
F24Atod. 4 para. 14(3)(b)(iii) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(iv)
F25Atod. 4 para. 14(3)(b)(iv) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(v)
F26Geiriau yn Atod. 4 para. 14(3)(b)(v) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(vi)
F27Atod. 4 para. 14(3)(b)(vi) wedi ei amnewid (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(vii)
F28Atod. 4 para. 14(3)(b)(vii) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(a)(viii)
F29Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(b)(iii)
F30Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(b)(ii)
F31Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(b)(iv)
F32Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu mewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(f)
F33Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu mewnosod (30.7.2018) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/814), rhlau. 1(2), 17(d)
F34Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu hepgor (gyda chais yn unol â rhl. 2 o'r O.S. sy’n diwygio) yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/481), rhlau. 1(2), 150(b)(i)
F35Geiriau yn Atod. 4 para. 14(4) wedi eu mewnosod (28.1.2021) gan Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/9), rhlau. 1(2), 50(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall—
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,
(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler is-baragraff (2)), ac
(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo yw—
Y sail gyntaf
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn peidio ag ymgymryd ag un cwrs ôl-radd dynodedig ac yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad.
Yr ail sail
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) o dan baragraff 15—
(a)cânt ailasesu swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i P ar ôl y trosglwyddo;
(b)ond os na wneir ailasesiad, mae gan P hawlogaeth, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yr asesodd Gweinidogion Cymru fod gan P hawlogaeth i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono.
(2) Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn trosglwyddo—
(a)ar ôl i Weinidogion Cymru asesu hawlogaeth P i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono, ond
(b)cyn i P gwblhau’r flwyddyn honno,
ni chaiff P wneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P wedi trosglwyddo iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Nid yw person yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y grant mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(2) Rhaid i gais o dan is-baragraff (1)—
(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,
(b)cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
18.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais.
(2) Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais (gweler paragraff 21 ar gyfer darpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).
(4) Caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—
(a)cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu
(b)rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais.
(6) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,
(b)os felly, a yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,
(c)os yw’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,
(d)dadansoddiad sy’n pennu symiau’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob [F36math o wariant] a grybwyllir ym mharagraff 20(2), ac
(e)yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.
Diwygiadau Testunol
F36Geiriau yn Atod. 4 para. (6)(d) wedi eu amnewid (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 1(2) yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 11(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
19.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru iddynt ei chael at ddibenion yr Atodlen hon.
(2) Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr ôl-raddedig cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.
(3) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs ôl-radd presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);
(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs ôl-radd presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs ôl-radd presennol—
(i)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu
(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs ôl-radd presennol neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod y manylion a ganlyn, sef—
(i)cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,
(ii)rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu
(iii)cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,
yn newid.
(4) Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan yr Atodlen hon ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—
(a)cais o dan baragraff 17;
(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan yr Atodlen hon,
yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.
(6) Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn is-baragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan baragraff 17 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.
(7) Gweler paragraff 10 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
[F3720.—(1) Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—
(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond
(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir yn is-baragraff (2).]
[F38(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—
Achos 1
Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).
Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.
Achos 2
Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.]
Diwygiadau Testunol
F37Atod. 4 para. 20(1) wedi ei amnewid (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 1(2) yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 11(c)(i)
F38Atod. 4 para. 20(2) wedi ei amnewid (gyda chymhwysiad yn unol â rhl. 1(2) yr O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/73), rhl. 11(c)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
21.—(1) Mae grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn daladwy mewn cysylltiad â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn meddwl eu bod yn briodol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn meddwl bod hynny’n briodol, dalu unrhyw swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn un taliad mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfan.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad dros dro ar gais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad sy’n seiliedig ar y penderfyniad hwnnw.
(5) Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.
(6) Os yw’r gofyniad hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl hyd nes bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cydymffurfio.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
22.—(1) Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael taliad o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n fwy na’r swm y mae hawlogaeth ganddo i’w gael, rhaid i’r myfyriwr ad-dalu’r swm dros ben os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
(2) Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys i’w trin fel pe baent yn cynnwys person sydd wedi cael swm o’r grant myfyriwr ôl-raddedig anabl ond nad yw, neu nad yw mwyach, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl oni bai eu bod yn meddwl nad yw’n briodol gwneud hynny.
(4) Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sydd wedi ei wneud cyn y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno yn ordaliad os yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn tynnu’n ôl o’r cwrs cyn y diwrnod hwnnw.
(5) Mae taliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yn ordaliad os yw’r naill neu’r llall o’r achosion a ganlyn yn gymwys—
Achos 1
Mae swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol, ond nid yw’r offer wedi eu danfon at y myfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ddod i ben neu gael ei derfynu.
Achos 2
Mae swm o’r grant at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol yn cael ei dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
(6) Caniateir adennill gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl drwy ddidynnu’r gordaliad o unrhyw grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys o bryd i’w gilydd o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw reoliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998.
(7) Pan—
(a)bo gordaliad o grant myfyriwr ôl-raddedig anabl, a
(b)bo unrhyw swm o’r grant wedi ei dalu at ddiben cynorthwyo gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol,
caiff Gweinidogion Cymru dderbyn offer arbenigol yn ôl fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad.
(8) Nid yw is-baragraffau (6) a (7) yn rhwystro Gweinidogion Cymru rhag adennill gordaliad drwy unrhyw ddull arall sydd ar gael iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)
2000 p. 14. Diwygiwyd adran 67(4) gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal (Cymru) 2016 (dccc 2), Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43.