YR ATODLENNI
ATODLEN 4Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl
Terfynu o ganlyniad i gamymddygiad neu fethu â darparu gwybodaeth gywir
10.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
(2)
Mae is-baragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
(a)
wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr Atodlen hon i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth, neu
(b)
wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
(3)
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)
penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl neu swm o grant o’r fath y maent yn meddwl ei fod yn briodol.