10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra myfyriwr ôl-raddedig cymwys os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr o’r fath fel nad yw’r myfyriwr yn addas mwyach i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.
(2) Mae is-baragraff (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys—
(a)wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan yr Atodlen hon i ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth, neu
(b)wedi darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth a oedd yn sylweddol anghywir.
(3) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl neu swm o grant o’r fath y maent yn meddwl ei fod yn briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)