Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaiddLL+C

14.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau ym mharagraff (3) yn digwydd, caiff y myfyriwr ddod yn gymwys i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl.

(2Ond ni fydd swm y grant sy’n daladwy i’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys ond mewn cysylltiad â’r [F1flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd].

(3Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)bod y myfyriwr yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar y sail–

[F2(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;]

[F3(ia)bod y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;]

(ii)bod y myfyriwr yn wladolyn o wladwriaeth sy’n ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(iii)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;

(iv)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(v)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;

(vi)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(4Yn is-baragraff (3) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—

“ffoadur” (“refugee”);

“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);

“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”);

[F4“person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67” (“person with section 67 leave to remain”);]

“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”);

[F5“person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth” (“person granted stateless leave”);]

“plentyn” (“child”);

[F6“rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);]

“rhiant” (“parent”).