15.—(1) Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo o gwrs ôl-radd dynodedig i gwrs ôl-radd dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i’r cwrs arall—
(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr i wneud hynny,
(b)os ydynt wedi eu bodloni bod un o’r seiliau trosglwyddo yn gymwys (gweler is-baragraff (2)), ac
(c)os nad yw cyfnod cymhwystra’r myfyriwr wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo yw—
Y sail gyntaf
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn peidio ag ymgymryd ag un cwrs ôl-radd dynodedig ac yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn yr un sefydliad.
Yr ail sail
Mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)