Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
16.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) o dan baragraff 15—
(a)cânt ailasesu swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i P ar ôl y trosglwyddo;
(b)ond os na wneir ailasesiad, mae gan P hawlogaeth, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae P yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl yr asesodd Gweinidogion Cymru fod gan P hawlogaeth i’w gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono.
(2) Pan fo myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“P”) yn trosglwyddo—
(a)ar ôl i Weinidogion Cymru asesu hawlogaeth P i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd P ohono, ond
(b)cyn i P gwblhau’r flwyddyn honno,
ni chaiff P wneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno mewn cysylltiad â’r cwrs y mae P wedi trosglwyddo iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)