xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Nid yw person yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â blwyddyn academaidd oni bai bod y person yn gwneud cais am y grant mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno.
(2) Rhaid i gais o dan is-baragraff (1)—
(a)bod ar y ffurf honno a chynnwys yr wybodaeth honno a bennir gan Weinidogion Cymru,
(b)cynnwys unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ac
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)