YR ATODLENNI

ATODLEN 4Grant myfyriwr ôl-raddedig anabl

Ceisiadau a phenderfyniadau18

1

Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn meddwl eu bod yn angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniad ar gais.

2

Caiff y camau hynny gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth bellach.

3

Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniad dros dro ar gais (gweler paragraff 21 ar gyfer darpariaeth ynghylch taliadau a wneir ar sail penderfyniad dros dro).

4

Caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ar ôl i benderfyniad dros dro gael ei wneud—

a

cadarnhau’r penderfyniad dros dro, neu

b

rhoi penderfyniad gwahanol yn ei le.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad (gan gynnwys penderfyniad dros dro) ar gais.

6

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—

a

a yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys,

b

os felly, a yw’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cymhwyso i gael grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

c

os yw’r myfyriwr yn cymhwyso i’w gael, y swm sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd,

d

dadansoddiad sy’n pennu symiau’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff 20(2), ac

e

yn achos penderfyniad dros dro, y ffaith bod y penderfyniad yn un dros dro a chanlyniadau’r ffaith honno.