Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

Cyrsiau ôl-radd dynodedigLL+C

2.—(1Yn yr Atodlen hon (ac at ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998), mae cwrs yn gwrs ôl-radd dynodedig os yw’n bodloni pob un o’r amodau a ganlyn—

Amod 1

Fel arfer mae gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu uwch yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i’r cwrs.

Amod 2

Nid yw’r cwrs yn gwrs rhyngosod.

Amod 3

Hyd y cwrs yw o leiaf un flwyddyn academaidd.

[F1Amod 4

( a)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd cyn 1 Awst 2019 yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

(b)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, mae’n cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir gan Gymru, sefydliad a gyllidir gan yr Alban, sefydliad a gyllidir gan Ogledd Iwerddon neu sefydliad rheoleiddiedig Seisnig;]

Amod 5

Mae o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi ei ddarparu yn y Deyrnas Unedig.

Amod 6

Nid yw’r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu’n gwrs a ddilynir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 7(2)).

(2At ddibenion Amod 4—

(a)mae cwrs wedi ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn [F2sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus] os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn [F2sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus] ;

[F3(c)ni fernir bod sefydliad yn sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus neu’n sefydliad a gyllidir gan Gymru dim ond oherwydd—

(i)pan fo’r cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig a gafodd daliad perthnasol cyn y dyddiad hwnnw, neu

(ii)pan fo’r cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019, ei fod yn sefydliad cysylltiedig sy’n cael taliad perthnasol.]

[F4(3) At ddibenion is-baragraff (2)—

(a)ystyr “sefydliad cysylltiedig” yw sefydliad cysylltiedig o fewn ystyr “connected institution” yn adran 65(3B) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992; a

(b)ystyr “taliad perthnasol” yw talu’r cyfan neu ran o unrhyw grant, benthyciad neu daliad arall gan gorff llywodraethu sefydliad a ddarperir i’r sefydliad cysylltiedig yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn Atod. 4 para. 2(1) wedi eu hamnewid (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(a)

F4Atod. 4 para. 2(3) wedi ei fewnosod (gyda chais yn unol â rhl. 1(3)(b) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/235), rhlau. 1(3)(a), 57(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)