Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

YR ATODLENNI

ATODLEN 4LL+CGrant myfyriwr ôl-raddedig anabl

Swm grant myfyriwr ôl-raddedig anablLL+C

[F120.(1) Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—

(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond

(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir yn is-baragraff (2).]

[F2(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—

Achos 1

Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).

Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.

Achos 2

Gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a

(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).

Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 12.3.2018, gweler rhl. 1(2)